Jenny Day BA, MA, PhD
 |
Swydd: |
Golygydd Cynorthwyol, Geiriadur Prifysgol Cymru; Cymrawd Ymchwil, Cwlt y Seintiau yng Nghymru
|
e-bost: |
j.day@cymru.ac.uk |
Ffôn: |
01970 636543 |
Ffacs: |
01970 639090 |
Cyfeiriad post: |
Dr Jenny Day, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH |
Mae Jenny Day yn rhan o dîm Geiriadur Prifysgol Cymru ers 2013 ac yn gymrawd ymchwil ar Brosiect Cwlt y Seintiau yng Nghymru ers 2014. Cyn hynny bu’n gweithio ar brosiect Guto’r Glyn, a gweithiodd am gyfnod i’r Geiriadur ar brosiect peilot ar eiriau newydd. Dechreuodd ei gyrfa fel gwyddonydd ond, ar ôl astudio rhan-amser ar gyfer BA yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, aeth ati i gwblhau doethuriaeth yn 2010, dan y teitl ‘Arfau yn yr Hengerdd a Cherddi Beirdd y Tywysogion’. Ers hynny mae wedi datblygu ei hymchwil ym maes arfau a rhyfel, fel y’u gwelid gan y beirdd, ac mae’n ymddiddori hefyd mewn amrywiol agweddau ar ddiwylliant materol a bywyd pob dydd yng Nghymru’r Oesoedd Canol. Ers ymuno â phrosiect y seintiau mae hi wedi mwynhau gweithio ar destunau rhyddiaith am y tro cyntaf gan archwilio agwedd Cymry’r Oesoedd Canol diweddar tuag at y ddau sant pwysig, Dewi a Martin.
|
Cyhoeddiadau
‘Weapons and Fighting in Y Gododdin’, Studia Celtica XLIX (2015), 121–47
‘Brigandines in Two Fifteenth-century Request Poems’, Studia Celtica XLVII (2013), 167–182
‘ “Arms of stone upon my grave”: Weapons in the Poetry of Guto’r Glyn’, yn D.F. Evans, B.J. Lewis ac A. Parry Owen (goln.), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013), 233–81
‘Shields in Welsh Poetry up to c.1300: Decoration, Shape and Significance’, Studia Celtica XLV (2011), 27–52
‘ “Ongyr gwŷr wedi gwyro” a “hëyrn ar naid”: dwy agwedd ar frwydro â gwaywffyn yng ngherddi Beirdd y Tywysogion’, Dwned, 14 (2008), 11–47
‘ “Elidir gwir, gwarant iawn—ganon”: Elidir ap Gwalchmai ac Elidir Sais’, Llên Cymru, 28 (2005), 53–99