Heather Williams MA, MSt, DPhil
Swydd: |
Cymrawd Ymchwil, 'Teithwyr Ewropeaidd i Gymru: 1750-2010' |
e-bost: |
h.williams@cymru.ac.uk |
Ffôn: |
01970 636543 |
Ffacs: |
01970 639090 |
Cyfeiriad post: |
Dr Heather Williams, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH
|
Ymunodd Heather Williams â staff y Ganolfan yn 2007 fel Cymrawd Hŷn Pilcher. Ar hyn o bryd y mae’n gweithio ar brosiect 'Teithwyr Ewropeaidd i Gymru: 1750-2010'. Y mae hyn yn caniatáu iddi gyfuno ei phrofiad o lenyddiaeth Ffrangeg gydag Astudiaethau Celtaidd. Ar ôl graddio mewn ieithoedd modern (Ffrangeg) o Goleg Santes Hilda, Prifysgol Rhydychen, cwblhaodd ei D.Phil. yno ar Stéphane Mallarmé. Bu’n Gymrawd Ymchwil Iau yn Rhydychen, a bu’n darlithio mewn Ffrangeg ym Mhrifysgolion Nottingham ac Aberystwyth.
Diddordebau ymchwil
- Ysgrifennu taith, yn enwedig mewn cysylltiad ag ôl-drefedigaethedd ac astudiaethau cyfieithu; teithwyr i Lydaw ac i Gymru o'r cyfnod Rhamantaidd ymlaen.
- Cyfieithu a chyfnewid diwylliannol rhwng Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg a Llydaweg. Yn benodol mae hi wedi gweithio ar gyfieithu rhwng Ffrangeg a Llydaweg, yn enwedig yn yr 1830au, yr 1960au a’r 1970au, ac ar gyfieithu i'r Gymraeg yn y 1790au.
- Ecofeirniadaeth, yn enwedig mewn cysylltiad â beirniadaeth ôl-drefedigaethol, ac yng nghyd-destun Llydaw a Chymru o’r cyfnod Rhamantaidd hyd heddiw.
- Llydaw, y delweddau o Lydaw a geir mewn llenyddiaeth Ffrangeg ei hiaith, boed yn deillio o Lydaw neu o draddodiad llenyddol Ffrainc. Y mae ei chyfrol Postcolonial Brittany: Literature Between Languages (2007) yn ymdrin â’r bwlch rhwng dwy iaith Llydaw fodern, trwy gyfrwng cyfres o ddarlleniadau manwl o weithiau llenyddol Ffrangeg sy’n cynnig delweddau o Lydaw neu o Lydewdod.
- Beirniadaeth lenyddol ôl-drefedigaethol yng nghyd-destun gwledydd a rhanbarthau Celtaidd.
- Barddoniaeth Ffrangeg, yn enwedig gwaith Stéphane Mallarmé. Ceir yn ei chyfrol Mallarmé’s Ideas in Language (2004) gyfres o ddarlleniadau agos o farddoniaeth a gwaith theoretig Mallarmé, sy’n archwilio syniadau’r bardd o fewn cyfyngiadau iaith yn hytrach na’i syniadau am iaith. Dadleuir bod ffordd unigryw Mallarmé o wreiddio syniadau mewn ieithwedd yn ennill lle iddo nid yn unig yn hanes barddoniaeth, ond hefyd yn hanes athroniaeth, a disgẃrs theori.
Prosiectau
- Cymru a Llydaw: cyfnewid diwylliannol (Cultural changes and exchanges: Brittany and Wales / Bretagne/pays de Galles : quand les chemins se croisent et se décroisent )
Dr Heather Williams oedd arweinydd y tîm Prydeinig ar y prosiect hwn, a arianwyd gan y Cyngor Prydeinig a’r Ministère des Affaires étrangères (Partenariats Hubert Curien), er mwyn cryfhau’r cysylltiad rhwng Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a’r Centre de Recherche Bretonne et Celtique (CRBC) yn Llydaw. Ceir manylion ein gweithdai yma. Cyhoeddwyd cyfrol o draethodau yn seiliedig ar y gweithdai yn 2013.
- Teithwyr Ewropeaidd i Gymru 1750-2010
Prosiect ar y cyd yw hon gyda Prifysgol Bangor, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Phrifysgol Abertawe ac fe'i gyllidir gan yr AHRC. Manylion yma.
CYHOEDDIADAU
Llyfrau
Postcolonial Brittany: Literature Between Languages (Oxford: Peter Lang, 2007), 191tt.
Mallarmé’s Ideas in Language (Oxford: Peter Lang, 2004), 175tt.
Barddoniaeth i Bawb? Stéphane Mallarmé ([Aberystwyth]: Cronfa Goffa Saunders Lewis, 1998), 64tt.
Cyfrolau wedi'u golygu:
Regards croisés sur la Bretagne et le pays de Galles/ Cross-Cultural Essays on Wales and Brittany, gol. Anne Hellegouarc’h a Heather Williams (Brest: CRBC, 2013)
Studies in Travel Writing, gol. Kathryn Jones, Carol Tully a Heather Williams, 18:2 (2014).
Erthyglau a phenodau mewn llyfrau:
‘Rousseau and Romanticism in Wales’, yn Jean-Jacques Rousseau and British Romanticism, gol. Russell Goulbourne and David Higgins (London: Bloomsbury Academic, 2017), tt. 75-90.
‘Translating Bretonness – colonizing Brittany’, Translation and the Arts in Modern France, gol. Sonya Stephens (Bloomington: Indiana University Press, 2017), 30-44.
‘Cartrefoli’r Chwyldro: Cyfieithu ar gyfer y Cymry uniaith yn y 1790au’, yn Ysgrifau Beirniadol 34, gol. Angharad Price (Bethesda: Gwasg Gee, 2016), tt. 45-66.
'Iolo Morganwg, Edward Williams and the radically bilingual text: Poems Lyric and Pastoral (1794); International Journal of Welsh Writing in English, 2 (2014), 147-67. Enillodd yr erthygl hon wobr M Wynn Thomas yn 2015.
gyda Kathryn Jones a Carol Tully, ‘Introduction : Wales and Travel Writing’, Studies in Travel Writing, gol. Kathryn Jones, Carol Tully a Heather Williams, 18:2 (2014).
‘Introduction: Cultural Changes and Exchanges: Brittany and Wales’, yn Regards croisés sur la Bretagne et le pays de Galles/ Cross-Cultural Essays on Wales and Brittany, gol. Anne Hellegouarc’h a Heather Williams (Brest: CRBC, 2013), tt. 27-35.
‘Pour une éco-poétique de la Bretagne: la nature comme cliché dans les littératures bretonnes’, yn Regards croisés sur la Bretagne et le pays de Galles/ Cross-Cultural Essays on Wales and Brittany, gol. Anne Hellegouarc’h a Heather Williams (Brest: CRBC, 2013), tt. 129-44.
‘Cymru trwy lygaid Rousseau (ac eraill)’, Y Traethodydd, CLXVIII (2013), 241-54.
'Rousseau and Wales', in 'Footsteps of liberty and revolt': Essays on Wales and the French Revolution, ed. Mary-Ann Constantine and Dafydd Johnston (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2013), tt. 35-51.
'Cymru, y Chwyldro Ffrengig a Gwyn All Williams: Ailasesu'r dystiolaeth', Llên Cymru 35 (2012), 181-85.
'Chwedlau ac arferion marwolaeth Llydaw', Llên Cymru, 34 (2011), 216-25.
‘Translating Bretonness – colonizing Brittany’, gol. Sonya Stephens (Bloomington: Indiana University Press) Translation and the Arts in Modern France.
'"Me zo bet sklav": African Americans and Breton Literature', Comparative American Studies ar ‘The Celts and the African Americas’, 8:2 (2010), 126-39.
‘Between French and Breton: the politics of translation’, Romance Studies, 27:3 (2009), 223–33. [PDF]
‘Ecofeirniadaeth i’r Celtiaid’, Llenyddiaeth Mewn Theori, 3 (2008) [2009], 1–28.
‘Ar drywydd Celtigrwydd: Auguste Brizeux’, Y Traethodydd, CLXI (2006), 34–50.
‘Celtomania’, yn Celtic Culture: A Historical Encyclopedia, gol. John T. Koch (5 cyf., Santa Barbara: ABC-CLIO, 2006).
‘Writing to Paris: poets, nobles, and savages in nineteenth-century Brittany’, French Studies, 57 (2003), 475–90.
‘Séparisianisme or internal colonialism’, yn Francophone Postcolonial Studies: A Critical Introduction, goln. Charles Forsdick a David Murphy (London: Arnold, 2003), tt. 102–11.
‘Une sauvagerie très douce’, yn Visions/ Revisions: Essays on Nineteenth-Century French Culture, goln. Nigel Harkness, Paul Rowe, Tim Unwin, Jennifer Yee (Oxford: Peter Lang, 2003), tt. 99–106.
‘Diffinio Llydaw’, Y Traethodydd, CLVII (2002), 197–208.
‘Mallarmé and the language of ideas’, Nineteenth-Century French Studies, 29 (2001), 302–17.
‘Mallarmé’s early correspondence: the language of crisis’, Romance Studies, 19 (2001), 148–59.
‘Dafydd ap Gwilym and the debt to Europe’, Études celtiques, 34 (1998–2000), 185–213.
‘Mallarmé dans la critique littéraire galloise’, Revue d’études françaises, 5 (2000), 109–15.
‘La Pensée corporelle de Mallarmé’, Vives Lettres, 9 (2000), 109–22.
‘Diffinio dwy lenyddiaeth Llydaw’, Tu Chwith, 12 (1999), 51–6.
‘Taliesin, l’Alexandre gallois, le retour de la cynghanedd’, Formules: Revue des littératures à contraintes, 2 (1998), 85–95.
‘Barddoniaeth i bawb o bobl y byd: cabledd?’, Taliesin, 95 (1996), 56–62.
Y mae Heather wedi adolygu llyfrau ar gyfer Barn, Cambrian Medieval Celtic Studies, French Studies, Modern and Contemporary France, New Welsh Review, New Zealand Journal of French Studies, a Nineteenth-Century French Studies. Annales: Histoire, Sciences sociales a Planet.