Gwneir darpariaeth gan Lyfrgell y Ganolfan ar gyfer aelodau’r staff ac ysgolheigion ar ymweliad. Cedwir ynddi gasgliadau o lyfrau a chylchgronau yn ymwneud â llenyddiaethau ac ieithoedd y gwledydd Celtaidd, yn ogystal â chymynrodd y diweddar Athro Emeritws J. E. Caerwyn Williams, sy’n gasgliad pwysig o lyfrau yn ymwneud ag astudiaethau Cymreig a Cheltaidd. |