Ann Parry Owen BA, PhD

  

 
Swydd: Cymrawd Ymchwil ac Arweinydd Prosiect Barddoniaeth Guto'r Glyn
e-bost: apo@cymru.ac.uk
Ffôn: 01970 636543
Ffacs: 01970 639090
Cyfeiriad post:

Yr Athro Ann Parry Owen,
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3HH

Ann02Web

 

 

 

 

 

 

Prif faes ymchwil Yr Athro Ann Parry Owen yw iaith a barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Y mae’n ymddiddori’n arbennig ym marddoniaeth, mydryddiaeth ac ieithwedd Beirdd y Tywysogion, y Gogynfeirdd Diweddar a ganai yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, a datblygiad y traddodiad barddol yn ddiweddarach yn y bymthegfed ganrif. Hi (gyda Nerys Ann Jones) a olygodd y ddwy gyfrol Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr I a II yng Nghyfres Beirdd y Tywysogion, a cheir golygiadau o destunau diweddarach ganddi yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr, cyfres y mae hi’n olygydd cyffredinol arni. Roedd yr Athro Parry Owen yn Brif Ymchwilydd ar brosiect Guto’r Glyn, prosiect tîm pum mlynedd a gynhaliwyd yn y Ganolfan rhwng 2008 a 2013, a hi oedd Golygydd Cyffredinol y golygiad electronig newydd sydd ar gael yn rhad ac am ddim, yn www.gutorglyn.net. Roedd hi’n gyfrifol hefyd am olygu’r cerddi a ganodd Guto’r Glyn yng Nglyn-y-groes tua diwedd ei oes, yn ogystal â’r farddoniaeth i deuluoedd Bryncunallt, Pengwern a Phlasnewydd yn Nanheudwy.Yn 2015–17 bu’n Gyd-Ymchwilydd ar brosiect Cwlt y Saint yng Nghymru, ac ailolygodd y tair awdl fawr o’r ddeuddegfed ganrif i’r saint Dewi, Cadfan a Thysilio. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar olygiad print o farddoniaeth Guto’r Glyn. Ers gwanwyn 2017 mae hi hefyd wedi bod yn gweithredu fel un o Olygyddion Hŷn Geiriadur Prifysgol Cymru.

Yn 2015 dyfarnodd Prifysgol Cymru gadair bersonol iddi.  

Mae Ann yn aelod o Banel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg.

 

Detholiad o Gyhoeddiadau:

Golygydd Cyffredinol ‘Cyfres Beirdd yr Uchelwyr’ y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (cyhoeddwyd 44 cyfrol hyd yn hyn).

Plu porffor a chlog o fwng ceiliog: Cynddelw Brydydd Mawr a Guto’r Glyn, Darlith Goffa J.E. Caerwyn Williams a Mrs Gwen Williams (Aberystwyth, 2017).

Erthyglau ar ‘The Hendregadredd Manuscript’, ‘The Gogynfeirdd’ a ‘Cynddelw Brydydd Mawr’ ar gyfer The Encyclopedia of British Literature (i ymddangos yn 2017).

‘Gramadeg Gwysanau: a Fragment of a Fourteenth-century Welsh Bardic Grammar’, Grammatica and the Celtic Vernaculars, ed. Paul Russell et al. (Oxford, 2016).

Articles on ‘Sangiad’, ‘Marwnad’ and ‘Noddwr’ for Esboniadur Beirniadaeth a Theori y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (https://wici.porth.ac.uk/).

‘“An audacious man of beautiful words”: Ieuan Gethin (c.1390–c.1470)’, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, ed. C. McKenna et al. (Cambridge Mass., 2015).

Gwaith Ieuan Gethin (Aberystwyth, 2013).

‘Golygiadau Electronig: Gwefan Guto’r Glyn’, Tu Chwith, Gwanwyn 2013.

Golygiad o gerddi 103–18 gan Guto’r Glyn (gw. www.gutorglyn.net) a Golygydd Cyffredinol y wefan (2012).

‘Cywydd Gofyn Cloc gan Ddafydd ab Owain o Fargam ar ran Morys o Ardal y Fenni’, Llên Cymru, 35 (2012), 3–18.

gyda William Linnard, ‘Horological Requests in Early Welsh Poems’, Antiquarian Horology, 33 (Medi 2012), 631–6.

 ‘Gramadeg Gwysanau (Archifdy Sir y Fflint, D/GW 2082)’, Llên Cymru, 33 (2010), 1–31.

‘Mynegai i Enwau Priod yng Ngwaith Beirdd y Bedwaredd Ganrif ar Ddeg’, Llên Cymru, 31 (2008), 35–89.

‘Englynion Bardd i’w Wallt’ (cerdd 171) <http://www.dafyddapgwilym.net>

‘Englynion Bardd i’w Wallt’: Cerdd arall gan Ddafydd ap Gwilym?’, Dwned, 13 (2007), 47–75.

Gwaith Gruffudd ap Maredudd iii (Aberystwyth, 2007).

‘Canu Serch Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd o Fôn’, Dwned, 10 (2004), 57–78.

‘Cyfuniadau hydref ddail ym Marddoniaeth Beirdd y Tywysogion’, Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, gol. Iestyn Daniel, Marged Haycock, Dafydd Johnston & Jenny Rowland (Caerdydd, 2003), 237–51.

gyda Dafydd Johnston, ‘Tri darn o Farddoniaeth yn Llawysgrif Peniarth 10’, Dwned, 5 (1999), 35–45.

‘Cymeriad yn Awdlau Beirdd y Tywysogion’, Dwned, 4 (1998), 33–58.

‘Mynegai i Enwau Priod ym Marddoniaeth Beirdd y Tywysogion’, Llên Cymru, 20 (1997), 25–45.

Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac Eraill, gol. Rhiannon Ifans, Ann Parry Owen, W. Dyfed Rowlands ac Erwain Haf Rheinallt (Aberystwyth, 1997).

‘ “A mi, feirdd, i mewn a chwi allan”: Cynddelw Brydydd Mawr a’i grefft’, Beirdd a Thywysogion: Barddoniaeth Llys yng Nghymru, Iwerddon a’r Alban, gol. Morfydd E. Owen a Brynley F. Roberts (Aberystwyth a Chaerdydd, 1996), 143–65.

‘Golwg Byr ar Fydryddiaeth Englynion Dafydd ap Gwilym i’r Grog o Gaer’, Dwned, 1 (1995), 41–53.

Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym ac Eraill, ed. Ann Parry Owen (tt. 1–168) a Dylan Foster Evans (tt. 172–212) (Aberystwyth, 1995).

Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr II, gol. Ann Parry Owen a N.A. Jones (Caerdydd, 1995) (tt. xxii, 449).

‘Canu Cynddelw Brydydd Mawr i Dysilio Sant’, Ysgrifau Beirniadol, xviii (Dinbych, 1992), 73–99.

Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr I, gol. Ann Parry Owen a N.A. Jones (Caerdydd, 1991) (tt. l, 374).