Teithwyr Chwilfrydig: Thomas Pennant a Theithio i Gymru ac i'r Alban 1760-1820

Ganol Mai 2014 daeth y newydd da fod cais Dr Mary-Ann Constantine wedi llwyddo i sicrhau nawdd sylweddol am y pedair blynedd nesaf. Bydd prosiect 'Teithwyr Chwilfrydig: Thomas Pennant a Theithio i Gymru ac i'r Alban 1760-1820' yn rhoi cyfle i'r Ganolfan ddatblygu ymhellach y gwaith arloesol a wnaed eisoes ar y cyfnod Rhamantaidd, gan adeiladu ar ddegawd a rhagor o brofiad ar brosiectau fel 'Iolo Morganwg' a 'Cymru a'r Chwyldro Ffrengig'. 

Nod y prosiect yw archwilio’r adroddiadau a gynhyrchwyd gan deithwyr i’r ddwy wlad ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar ysgrifau ‘Tad Twristiaid Cambria’, sef Thomas Pennant (1726–98), naturiaethwr a hynafiaethydd o Sir y Fflint, awdur Teithiau dylanwadol iawn i Gymru ac i’r Alban.

A view of north Wales from the extra-illustrated Tour in Wales, courtesy of NLWDan arweiniad y Prif Ymchwilydd (ac Arweinydd y Prosiect), Dr Mary-Ann Constantine (Y Ganolfan), a’r Cyd-ymchwilydd, yr Athro Nigel Leask (Prifysgol Glasgow), bydd y prosiect yn cynhyrchu dau adnodd ymchwil a fydd ar gael yn rhad ac am ddim i’r cyhoedd: bas-data yn catalogio gohebiaeth Pennant (yn cynnwys dros chwe chant o lythyrau, sydd ar wasgar mewn gwahanol archifau), a chorpws arlein chwiliadwy yn cynnwys rhyw drigain taith i Gymru ac i’r Alban sydd heb eu cyhoeddi o’r blaen. Datblygir yn ogystal wefan 'Curious Travellers/Teithwyr Chwilfrydig', yn ffynhonnell o wybodaeth am y profiad o deithio yn y ddwy wlad. Bydd yn cynnwys mapiau rhyngweithiol yn dangos llwybrau’r teithiau, a llyfryddiaeth o gannoedd o deithiau cyhoeddedig. Cyflwynir adnoddau addysgiadol ar gyfer cyrsiau hanes mewn ysgolion yn ogystal.

Thomas Pennant, courtesy of NLW

Mewn dwy gyfrol, bydd Constantine a Leask yn trafod y Daith yn ei chyd-destun ehangach, gan edrych ar sut yr helpodd i ddatgelu fersiynau gwahanol (ac weithiau gwrthgyferbyniol) o hanes cynnar Prydain; ar y berthynas rhwng ysgrifau teithio a dulliau llenyddol brodorol (Cymraeg, Sgoteg, Gaeleg); ar ddylanwad ieithwedd wyddonol (daearegol, naturiaethol), ac ar gyfraniad pwysig byd celf i’r genre 

Cynhelir cyfres o gynadleddau ac arddangosfeydd mewn amgueddfeydd a llyfrgelloedd cenedlaethol a lleol dros Gymru a’r Alban. Bydd y rheini’n tynnu sylw at agweddau gweledol a materol ar y teithiau – o beintio tirluniau i henebion Rhufeinig neu hanes byd natur. Bydd digwyddiadau creadigol yn ogystal, yn cynnwys rhai o’n hartistiaid ac awduron adnabyddus yn ailgerdded rhannau o lwybrau’r teithwyr gynt er mwyn creu fersiynau cyfoes o’r Daith.