Cymru a'r Chwyldro Ffrengig

Y Chwyldro Ffrengig ym 1789, o bosibl, oedd digwyddiad diffiniol y cyfnod Rhamantaidd yn Ewrop. Creodd anesmwythyd nid yn unig yn y drefn gymdeithasol ond yn iaith a meddylfryd y cyfnod yn ogystal.

Trawsnewidiwyd ein dealltwriaeth o ddylanwad y Chwyldro a’i ôl ar ddiwylliant Prydain yn sylweddol yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf. Serch hynny, erys nifer o fylchau annisgwyl. Y mae hyd yn oed astudiaethau diweddar ar yr adwaith ‘Prydeinig’ i’r Chwyldro yn arddangos cryn anwybodaeth ynghylch y sefyllfa yn y gwahanol ranbarthau. Mewn trafodaethau llenyddol a hanesyddol ar ‘bedair cenedl’ Prydain y mae Cymru yn dal i gael ei hesgeuluso.

Sut y daeth trigolion trefi megis Caerfyrddin, Bangor neu Aberdaugleddau i wybod am y digwyddiadau yn Ewrop ac am yr adwaith a gafwyd iddynt ym Mhrydain? Ym mha fodd yr oedd yr ymatebion yng Nghymru yn wahanol i’r rhai a gafwyd yn yr Alban, Iwerddon a Llundain? Nod ein prosiect newydd yw archwilio’r pynciau hyn mewn cyfres o destunau golygedig (gan gynnwys cyfieithiadau os oes angen). Bydd pob cyfrol yn cynnwys rhagymadrodd beirniadol a fydd yn gosod y deunydd yn ei gyd-destun hanesyddol a llenyddol. Yn ogystal, cyhoeddir cyfrol gyfansawdd o ysgrifau gan arbenigwyr yng Nghymru a’r tu hwnt a fydd yn trafod yr ymatebion i’r cyfnod ar draws sbectrwm eang o destunau. At hynny, cyflwynir gwaith y prosiect i’r cyhoedd yn gyffredinol drwy gyfrwng gwefan benodol.

Bydd yr amrediad o destunau a gwmpasir gan ein prosiect – yn faledi a phamffledi, cerddi arobryn, ysgrifau, cylchgronau, pregethau, caneuon a gweithiau dychanol – yn cyflwyno darlun cyffrous o gymhlethdod y cyfnod. Ni ddisgwylir i’r Gymru a amlygir ar ddiwedd yr astudiaeth hon fod yn gwbl radical nac yn gwbl deyrngarol, nac ychwaith yn hollol Gymreig neu’n llwyr Brydeinig. Ond yn y cydblethu cynnil rhwng teyrngarwch lleol a theyrngarwch cenedlaethol disgwyliwn ddarganfod diwylliant unigryw a chymhleth, na ellir bellach ei anwybyddu.