Gwydr Lliw yng Nghymru

Ceir nifer sylweddol o ffenestri lliw drwy Gymru benbaladr. Mae rhai i’w cael yn y mwyafrif o ardaloedd, mewn eglwysi gan amlaf ond mewn rhai capeli yn ogystal. Fe’u hystyrir yn drysorau gan rai cymunedau a chynulleidfaoedd lleol, ond prin yn aml yw’r wybodaeth amdanynt o safbwynt hanes celf a diwinyddiaeth.

Er bod pobl yn ymwybodol o bwysigrwydd gwydr canoloesol, tueddir i anwybyddu gwydr modern oherwydd i gymaint ohono gael ei gynhyrchu yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac wedi hynny. Mae gwaith o’r fath yn werthfawr iawn er mwyn deall y drefn nawdd leol a hanes crefydd, ac mae hefyd yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o ddiwylliant gweledol y cyfnod ac o swyddogaeth artistiaid, penseiri a dylunwyr yn y gwaith o addurno eglwysi.  

  Catrin Jones, Cyfarchiad Gabriel a’r Teulu Sanctaidd, 1983, manylyn, Eglwys Priordy Dewi Sant, Abertawe

Catrin Jones, Cyfarchiad Gabriel a'r Teulu Sanctaidd, 1983, manylyn, Eglwys Priordy Dewi Sant, Abertawe. Llun: Martin Crampin

 

Yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif mae Cymru wedi bod yn flaenllaw yn y gwaith o gynhyrchu gwydr lliw, yn bennaf o ganlyniad i sefydlu’r Adran GwydrPensaernïol ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe.

Enillwyd clod rhyngwladol gan lawer o fyfyrwyr yr Adran hon. Deil rhai ohonynt i weithio yng Nghymru, ac mae eu gwaith i’w weld mewn mannau addoli ac mewn mathau eraill o adeiladau cyhoeddus. 

 

 

 

Gan adeiladu ar brosiect ymchwil yr AHRC ‘Delweddu’r Beibl yng Nghymru’, a weithredwyd ar y cyd â Phrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan (Y Drindod Dewi Sant erbyn hyn), cafodd cronfa ddata ar-lein o wydr lliw yng Nghymru ei datblygu a'i hysgrifennu gan Martin Crampin. Fel rhan o'r prosiect, tynnodd luniau cannoedd o ffenestri lliw ac mae'r ffotograffau hynny bellach wedi eu cynnwys yng nghronfa ddata 'Delweddu'r Beibl yng Nghymru': http://imagingthebible.llgc.org.uk

Theodore Baily, Tröedigaeth Sant Illtyd, c.1925, Eglwys Priordy y Santes Fair a Sant Illtyd, Ynys Bŷr 

Theodore Baily, Tröedigaeth Sant Illtyd, c.1925, Eglwys Priordy y Santes Fair a Sant Illtyd, Ynys Bŷr. Llun: Martin Crampin

Drwy gydweithio â’r ymgynghorydd Nigel Callaghan o Technoleg Taliesin, cafodd y gronfa ddata ei thrawsnewid i fod yn un a allai ddal casgliadau lluosog o ddeunydd y gellid eu cyhoeddi fel gwefannau ar wahân. Gall y gwefannau hyn hefyd rannu deunydd cyffredin fel bywgraffiadau artistiaid a gweithiau celf sy’n berthnasol i ragor nag un casgliad. Hwylusodd hyn y dasg o greu catalog ar-lein newydd o Wydr Lliw yng Nghymru: http://stainedglass.llgc.org.uk.

Tynnwyd lluniau o gannoedd o ffenestri ymhellach a’u catalogio gan ychwanegu at y gronfa ddata a fodolai eisoes, a hynny gyda chymorth Cronfa Diwydiannau Cymreig Prifysgol Cymru, Sefydliad Weston a’r Friends of Friendless Churches. Mae’r catalog newydd yn ehangu cwmpas y deunydd i gynnwys gwrthrychau nad ydynt yn rhai beiblaidd fel seintiau Cymreig a gweithiau haniaethol yn ogystal â gwydr canoloesol o Gymru ar y naill law a gwaith cyfoes ar y llall. Nid oedd y rhain yn cael eu cynnwys o fewn dyddiadau prosiect blaenorol yr AHRC, sef 1825–1975. Mae’r ddwy wefan wedi elwa hefyd o waith ymchwil newydd gan Martin Crampin sydd wedi llwyddo i ddyddio gwydr lliw ar hyd y wlad a’i briodoli i artistiaid penodol, ac yn cynnwys gwybodaeth bellach am y gwneuthurwyr a fu’n gyfrifol am y toreth o wydr lliw sydd yng Nghymru.

Lansiwyd Catalog Gwydr Lliw yng Nghymru ym Mehefin 2011 mewn fforwm undydd ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe ac yn Eglwys y Santes Fair yn y ddinas. Er i’r prosiect ddod i ben yn swyddogol ym mis Hydref 2011, mae’r catalog yn parhau i dyfu a chroesewir sylwadau a deunydd newydd i sicrhau y bydd hyn yn dal i ddigwydd yn y dyfodol.