Barddoniaeth Guto'r Glyn

 

Tîm y Prosiect

Pan holodd Tomas ap Dafydd, Abad Dinas Basing, y pencerdd Tudur Aled pwy oedd y gorau o ran canu ‘cywydd mab’ (sef canu mawl i uchelwyr), ei ateb cadarn oedd Guto’r Glyn, ac ar hyd y canrifoedd hyd heddiw y mae beirniaid wedi bod yn unfryd eu barn ynglŷn ag athrylith farddol Guto’r Glyn.

Cafodd yrfa faith ( c .1435– c. 1493) ac yr oedd yn un o feirdd ‘y Ganrif Fawr’ (1436–1536), fel y’i gelwid gan Saunders Lewis, sef y cyfnod pan oedd y traddodiad o noddi barddoniaeth fawl ar ei anterth yng Nghymru. Roedd y beirdd swyddogol yn aelodau pwysig o’u cymdeithas ac yn gwbl allweddol ym mywydau cyhoeddus eu noddwyr, gan fod yn gyfrifol am ledaenu eu henw da drwy gyfrwng eu cerddi. Yn gyfnewid am y mawl, byddai’r noddwyr yn eu tro yn estyn croeso hael i’r beirdd i’w cartrefi ac yn rhoi anrhegion drudfawr iddynt. Dyma benllanw’r berthynas rhodd am rodd a nodweddai’r traddodiad mawl Cymraeg ers dyddiau Aneirin a Thaliesin yn y chweched ganrif.

Cyhoeddir golygiad ar-lein o farddoniaeth Guto’r Glyn erbyn 2012, gyda nodiadau cyflawn a fydd yn galluogi’r darllenydd i lwyr werthfawrogi’r cerddi. Byddwn yn cynnwys tudalennau Saesneg hefyd er mwyn sicrhau bod Guto’r Glyn yn cael ei werthfawrogi y tu hwnt i Glawdd Offa yn ogystal ag yng Nghymru. Ar ôl cwblhau’r gwaith electronig byddwn yn cyhoeddi golygiad print o’i waith yn ogystal â chyfrol neu ddwy o erthyglau yn ymdrin â gwahanol agweddau ar farddoniaeth a hanes y cyfnod.


Adnoddau ychwanegol

Disgrifiad llawn o'r prosiect