Iolo Morganwg a'r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru 1740–1918
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf bu tîm o ymchwilwyr llawn-amser yn gweithio ar archif gyfoethog, ond gwbl anhrefnus, Edward Williams (Iolo Morganwg, 1747–1826) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ef, yn ddiamau, oedd un o’r bobl bwysicaf y tu cefn i’r adfywiad diwylliannol a arweiniodd at greu’r Gymru fodern. Rhydd y cannoedd llythyrau a’r dwsinau o gyfrolau o lawysgrifau, sy’n ymdrin ag amrywiaeth anhygoel o bynciau, ddarlun o gymeriad hynod gymhleth: yn fardd o’r wlad a fu’n straffaglu byw yn Llundain, gan brofi llwyddiant a methiant oddi ar law noddwyr llên, yn radical ac yn ganoloeswr, yn ffugiwr, yn fwytawr opiwm, ac yn feirniad llym a chadarn ei farn.
Mae Prosiect Iolo Morganwg wedi esgor ar gyfres o gyhoeddiadau diddorol iawn, yn astudiaethau trwyadl a thestunau golygedig, pamffledi, erthyglau a gwefan. Dengys y gweithiau hyn, sy’n cyfrannu’n sylweddol at yr astudiaethau hanesyddol a llenyddol ynghylch Rhamantiaeth ym Mhrydain, sut y newidiodd gweledigaeth Iolo o’r gorffennol ganfyddiad pobl o Gymru a Chymreictod mewn ffyrdd sy’n parhau i raddau hyd heddiw. Nid yw ei etifeddiaeth yn un i’w diystyru. Yr ydym yn ymwybodol fod llawer o ymchwilwyr yn parhau i gael eu dal mewn gweoedd a luniwyd ganddo dros ddau can mlynedd yn ôl. Croesewir sylwadau ac ymholiadau gan bobl sydd mewn penbleth ynghylch unrhyw agwedd o waith Iolo (neu sydd wedi llwyddo i ddatrys unrhyw gymhlethdodau eu hunain).