Cyhoeddiadau
Cyfres Beirdd yr Uchelwyr
40: Gwaith y Nant

Awdur/ Golygydd |
Huw Meirion Edwards |
Cyhoeddwyd |
2013 |
ISBN |
978-1-907029-11-0 |
Cyhoeddwr |
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris |
£10.00 |
Maint |
234 x 156mm |
Fformat |
Clawr papur/Paperback, xvi+157 |
Canai’r Nant yn siroedd Brycheiniog, Morgannwg a Mynwy yn nhraean olaf y bymthegfed ganrif. Yn ogystal â chanu’n helaeth i deulu Porthgogof, Ystradfellte, cyfarchodd rai o noddwyr amlycaf ei oes: Fychaniaid Tretŵr, Twrbiliaid Llandudwg, a Rhys ap Siôn ap Rhys ap Siancyn o Aberpergwm yng Nglyn-nedd. Derbyniodd nawdd hefyd gan noddwyr eglwysig, yn Ystradfellte ac yn abaty Margam. Ceir ganddo gynifer â naw o gerddi gofyn, drosto’i hun a thros ei noddwyr, ynghyd â phedair cerdd fawl a thair dychangerdd, dwy ohonynt yn melltithio lladron a’r llall yn tynnu coes un o’i gyd-feirdd.
Y mae’r Nant wedi ei drwytho ym myd-olwg ac yng nghyfeiriadaeth y Cywyddwyr, ac eto y mae’n wahanol iawn ar sawl cyfrif i’r beirdd eraill y cyhoeddwyd eu gwaith yn y gyfres hon. Cofnodwyd y cerddi – gan y bardd ei hun, yn ôl pob golwg, oddeutu 1480 – mewn llawysgrifen ac orgraff unigryw. Ac eithrio un gadwyn englynion ddigon anghelfydd, fe’u canwyd ar fesur o linellau byrion, bachog a’r trawiad cynganeddol wedi ei gyfyngu i gynffon pob pennill. Yn llais hynod y Nant caiff ieithwedd gyfoethog y penceirddiaid ei hasio â thafodiaith fras, a bywiogir ei gerddi gan bersonoliaeth farddol hyderus a ffraeth sy’n gyfuniad o ymffrost a pharodrwydd i chwerthin am ei ben ei hun. Dyma enghraifft brin o’r math o ddiddanwch clerwraidd, llai caboledig a glywid ochr yn ochr â chanu’r prif draddodiad yng Nghymru’r Oesoedd Canol.
Gellir archebu'r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com