Cyhoeddiadau
Cyfres Beirdd yr Uchelwyr
39: Gwaith Raff ap Robert

Awdur/ Golygydd |
A. Cynfael Lake |
Cyhoeddwyd |
2013 |
ISBN |
978-1-907029-05-9 |
Cyhoeddwr |
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris |
£10.00 |
Maint |
234 x 156mm |
Fformat |
Clawr papur/Paperback, xv+155 |
Yn ôl Siôn Tudur, gŵr ‘tiriog’ a oedd yn canu ‘ar ei fara ei hun’ oedd Raff ap Robert o blwyf Llanynys yng nghantref Dyffryn Clwyd, a diau fod a wnelo hynny â phynciau ac â daearyddiaeth y cerddi a gynullwyd ac a olygwyd yn y casgliad hwn. Gwelir bod y rhan fwyaf o’r canu yn perthyn i ddyffryn afon Clwyd a’r cyffiniau. Un gerdd foliant sydd yma ond ceir sawl marwnad, ac yn eu plith un i Dudur Aled ac un arall i Siôn Salbri, gŵr cyntaf Catrin o Ferain. At hyn, diogelwyd un cywydd serch ac un cywydd defosiynol yn ogystal â lliaws o englynion, rhai yn ddwys, eraill yn ysgafn a hwyliog eu cywair. Bu Raff yn ymwneud â beirdd a cherddorion ei oes, ac yn ymryson â dau mor wahanol i’w gilydd â Siôn Tudur a Robin Clidro.
Gellir archebu'r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com