Cyhoeddiadau
Cyfres Beirdd yr Uchelwyr
38: Cywyddau Ymryson Syr Dafydd Trefor

Awdur/ Golygydd |
Rhiannon Ifans |
Cyhoeddwyd |
2013 |
ISBN |
978-1-907029-09-7 |
Cyhoeddwr |
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris |
£10.00 |
Maint |
234 x 156mm |
Fformat |
Clawr papur/Paperback, xix+217 |
Cyflwynir yn y gyfrol hon gywyddau pum ymryson a ddatblygodd rhwng Syr Dafydd Trefor a phedwar o feirdd ei gyfnod, ynghyd â marwnad iddo gan Ieuan ap Madog ap Dafydd.
Cywydd gofyn geifr sy’n ysbarduno’r anghydfod cyntaf, a gofyn alarch yw testun yr ail. Man cychwyn y trydydd ymryson yw cywydd mawl i fferi Môn, cerdd a enynnodd ymateb deifiol ar destun natur yr offeiriadaeth. Dychanu marchog urddol ar gam yw testun ymryson arall: y mae anrhydedd Syr Wiliam Gruffudd o’r Penrhyn yn y fantol gan fod Ieuan Delynor wedi ei ddychanu am gyboli gyda merch o’r enw Gwenonwy. Yn sgil hynny, cyfyd ymryson ynghylch statws tri bardd a arferai ymweld â’r Penrhyn ar eu teithiau barddol. Cloir y gyfrol gyda marwnad i Syr Dafydd Trefor. Bu farw’r bardd o effeithiau’r Pla Du, a datgelir yma wybodaeth am ddulliau claddu yn yr Oesoedd Canol.
Y mae’r doniol a’r dwys yn y cerddi hyn, a cheir ynddynt gipolwg ar fywyd lliwgar clerigwr a’i gyfeillion ar ddiwedd y bymthegfed ganrif a dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg.
Gellir archebu'r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com