Cyhoeddiadau

Cyfres : Beirdd yr Uchelwyr|

19: Gwaith Gwerful Mechain ac Eraill

Front cover of '19: Gwaith Gwerful Mechain ac Eraill'

Awdur/
Golygydd
 
Nerys Ann Howells
Cyhoeddwyd    2001
ISBN 0 947531 41 6
Cyhoeddwr   Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris £10.00
Maint  234 x 156mm
Fformat Clawr papur/Paperback, xvi+195

 

Cyflwynir yn y gyfrol hon waith Gwerful Mechain, bardd o Faldwyn a ganai yn ail hanner y bymthegfed ganrif a’r unig Gymraes o’r Oesoedd Canol y mae casgliad sylweddol o’i cherddi wedi goroesi. Er mai cywyddau ac englynion yn unig a gadwyd o’i gwaith, y mae amrywiaeth themâu’r canu yn mynnu sylw. Cyfansoddodd Gwerful Mechain rai o gerddi maswedd mwyaf uniongyrchol a dilyffethair yr iaith Gymraeg, ond y mae’n bwysig cofio mai un agwedd ar ei gwaith a gynrychiolir gan y cerddi hynny. Canodd yn ogystal gywyddau crefyddol ac englynion brud a bu’n ymryson â beirdd megis Dafydd Llwyd o Fathafarn, Ieuan Dyfi a Llywelyn ap Gutun.