Cyhoeddiadau
Cyfres : Beirdd yr Uchelwyr|
18: Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel

Awdur/ Golygydd |
M. Paul Bryant-Quinn |
Cyhoeddwyd |
2001 |
ISBN |
0 947531 26 2 |
Cyhoeddwr |
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris |
£10.00 |
Maint |
234 x 156mm |
Fformat |
Clawr papur/Paperback, xix+165 |
Yn y gyfrol hon cyflwynir gwaith tri bardd-offeiriad a hanai o’r Deheubarth, sef Syr Phylib Emlyn, Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel. Yn wŷr wrth grefydd neu’n offeiriaid, perthyn y tri i ddosbarth pwysig o feirdd answyddogol a ymroes i astudio diwylliant a llên Cymru ac i ddysgu rheolau cerdd dafod. Canodd Syr Phylib Emlyn i Fychaniaid Tretŵr ac i Rys ap Dafydd o Flaen Tren, Llanybydder, a phriodolir iddo hefyd y cywydd trawiadol hwnnw i’r pwrs a ddisgrifiwyd yn deg gan Ifor Williams fel ‘cân ddireidus, grafog, lawn coegni ac arabedd hallt’. Cadwyd dwy gerdd gan Syr Lewys Meudwy, a fu’n ymryson â Syr Phylib, a phedair gan Mastr Harri ap Hywel, archddiacon Caerfyrddin a chlerigwr o bwys yn ei ddydd. Ymddengys fod Mastr Harri yn perthyn i Ieuan Tew Brydydd o Gydweli, a chadwyd cerddi ymryson rhwng y ddau ohonynt ynghylch talu’r degwm a throeon serch. Er mai cartrefol yw crefft y clerigwyr hyn gan mwyaf, amlygir yn eu gwaith agweddau ar brif themâu’r traddodiad barddol, a hyn oll mewn cywair ffraeth a dwys am yn ail. Ceir hefyd gipolwg ar fywyd cymdeithasol a diddordebau dosbarth pwysig o wŷr a ymddiddorai mewn cerdd dafod ac yn y ddysg frodorol yn ail hanner y bymthegfed ganrif.