Cyhoeddiadau
Cyfres : Beirdd yr Uchelwyr
05: Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac Eraill
Awdur/ Golygydd |
Ann Parry Owen a Dylan Foster Evans |
Cyhoeddwyd |
1996 |
ISBN |
0947531149 |
Cyhoeddwr |
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris |
£10.00 |
Maint |
234 x 156mm |
Fformat |
Clawr papur/Paperback, xvii+219 |
Cynhwysir yn y gyfrol hon gerddi a ychwanegwyd at ‘drydedd haen’ Llawysgrif Hendregadredd, pan oedd y llawysgrif yn ôl pob tebyg yn ‘llyfr llys’ i Ieuan Llwyd o Lyn Aeron yng Ngheredigion yn ail chwarter y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae nifer o’r cerddi wedi eu canu i aelodau o deulu Ieuan Llwyd yn ogystal ag i’w gydnabod megis Syr Rhys ap Gruffudd, noddwr tebygol gramadeg Einion Offeiriad, a Tomas ap Rhotbert, a oedd yn bedellus yng Ngheredigion. Ceir yma hefyd y golygiad cyntaf o gyfres hirfaith o englynion a ganodd Dafydd ap Gwilym ‘I’r Grog o Gaer’; er bod Thomas Parry wedi gwrthod yr englynion hyn yn wreiddiol o ganon Dafydd ap Gwilym fe’u derbyniodd yn ddigwestiwn yn ddiweddarach. Golygir hefyd y ddwy awdl a gadwyd inni o waith Llywelyn Ddu ab y Pastard, sef marwnad i deulu Trefynor, nid nepell o gartref Ieuan Llwyd yng Nglyn Aeron, ac awdl ddychan lem a maith a ganodd i wyth gŵr anffodus. Cedwir y naill yn Llawysgrif Hendregadredd a’r llall yn Llyfr Coch Hergest.
Gellir archebu'r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com