Cyhoeddiadau
Cyfres : Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg
Miliwn o Gymry Cymraeg!: Yr Iaith Gymraeg a Chyfrifiad 1891

Awdur/ Golygydd |
Gwenfair Parry & Mari A. Williams |
Cyhoeddwyd |
1999 |
ISBN |
0708315372 |
Cyhoeddwr |
Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press |
Pris |
£25.00 |
Maint |
237 x 154mm |
Fformat |
Clawr papur/Paperback, xiii+476 |
Hon yw’r bedwaredd gyfrol mewn cyfres arloesol o astudiaethau ar hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg. Y mae’n ymwneud yn benodol â’r cyfrifiad a gynhaliwyd yng ngwanwyn 1891, pryd y rhifwyd siaradwyr y Gymraeg am y tro cyntaf erioed. Y mae’r cyfrifiad hwn yn cynnwys gwybodaeth ddibynadwy ynghylch gallu ieithyddol ac yn ffynhonnell hynod werthfawr i’r rheini sy’n ymddiddori yn y newid ieithyddol a oedd yn digwydd yng Nghymru ym machlud y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn Miliwn o Gymry Cymraeg! cyflwynir am y tro cyntaf ddadansoddiad manwl o dystiolaeth ieithyddol llyfrau’r cyfrifwyr, gan ganolbwyntio ar ugain ardal a ddewiswyd ar sail eu priodoleddau daearyddol, economaidd ac ieithyddol gwahanol. Rhoddir cryn sylw i lithriad ieithyddol rhwng cenedlaethau, effaith priodasau cymysg ar gadwraeth iaith o fewn y teulu, dylanwad mewnfudwyr ac ymraniad daearyddol ar sail iaith a diwylliant.