Cynadleddau, Gweithdai, Ffora a Seminarau
Teithwyr Chwilfrydig
Dr Johnson a Thomas Pennant ar Daith
Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau yn Llundain i gyd-fynd â'r arddangosfa yn Nhŷ Dr Johnson
(5 Hydref 2018 - 12 Ionawr 2019)
Gwasgwch yma am fanylion pellach
******************************************************************************************
Y mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnal cyfres o ffora (neu gynadleddau undydd) yn rheolaidd. Fel arfer, cynhelir un fforwm i bob prosiect bob blwyddyn.
Os hoffech dderbyn manylion am ein ffora, anfonwch eich enw a’ch cyfeiriad i: canolfan@cymru.ac.uk. Cedwir yr wybodaeth hon ar ein systemau cyfrifiadur er mwyn anfon gwybodaeth atoch am weithgareddau’r Ganolfan. Ni roddir yr wybodaeth i unrhyw sefydliad arall.
SEMINARAU
Y mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnal dwy gyfres o seminarau (yn aml ar waith mewn llaw) bob blwyddyn. Fe’u cynhelir fel arfer yn Ystafell Seminar y Ganolfan am 5:00 o’r gloch bob yn ail ddydd Iau yn ystod tymhorau’r Pasg a’r Hydref. Y mae’r rhan fwyaf o bapurau tua 50 munud o hyd, gan adael rhyw 20 munud ar y diwedd ar gyfer cwestiynau. Estynnir croeso cynnes i bawb.
Os hoffech dderbyn manylion am ein seminarau a’n cynadleddau drwy’r post, anfonwch eich enw a’ch cyfeiriad i: canolfan@cymru.ac.uk. Cedwir yr wybodaeth hon ar ein systemau cyfrifiadur er mwyn anfon gwybodaeth atoch am weithgareddau’r Ganolfan. Ni roddir yr wybodaeth i unrhyw sefydliad arall.
**Seminarau Tymor y Gwanwyn 2019**