Teithwyr Ewropeaidd i Gymru 1750-2010

Prosiect a ariennir gan yr AHRC yw hwn, ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor (Yr Athro Carol Tully, Principal Investigator), Prifysgol Abertawe (Dr Kathryn Jones, Co-investigator) a'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (Dr Heather Williams, Co-investigator). 

Mae'r prosiect yn ymchwilio i'r delweddau o Gymru a Chymreictod a geir mewn testunau gan deithwyr Ewropeaidd o 1750 i 2010. Gan ddefnyddio arbenigedd mewn nifer o ieithoedd a diwylliannau, byddwn yn canolbwyntio ar destunau Ffrangeg ac Almaeneg, gan fod y rhain mor gymharol niferus. Bydd y testunau yn cwmpasu cofiannau taith, teithlyfrau, almanaciau, gwyddoniaduron, gohebiaeth breifat, gwaith creadigol a chyfraniadau at gyfnodolion, sy'n ymdrin â Chymru. Mae'r maes ymchwil pwysig hwn wedi ei ddiystyru, ond mae'n ganolog i'n dealltwriaeth o'r berthynas rhwng gwahanol ddiwylliannau Ewrop, datblygiad hunaniaeth Gymreig a thŵf y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

Cynhaliwyd gweithdy ar Deithwyr i Gymru yn y Ganolfan ar 25 Ebrill 2009, cliciwch yma am y manylion. 

Fel rhan o'r prosiect bydd rhifyn arbennig o Studies in Travel Writing yn ymddangos yn 2014. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.