Hanes

Mae Gregynog wedi bodoli ers wyth canrif. Erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd yn gartref i’r teulu Blayney, uchelwyr lleol oedd yn honni eu bod yn ddisgynyddion i’r tywysogion cynnar, ac y canmolid eu dewrder a’u haelioni gan feirdd y llys. Arfbais y teulu yw canolbwynt y cerfiadau derw hardd yn yr ystafell a elwir bellach yn Ystafell Blaenau. 

Am gannoedd o flynyddoedd Gregynog oedd un o brif Gwendoline Daviesystadau tir Sir Drefaldwyn, yn galon i’r gymuned ac i’r economi lleol. Ar ôl cyfnod y sgweieriaid Blayney daeth Arglwyddi Sudeley, ac yna’r Arglwydd Joicey. Ond ym 1913 cynhaliwyd arwerthiant mawr, a gwerthwyd ffermydd, bythynnod a choetiroedd Gregynog, llawer ohonynt i’r tenantiaid.

Oni bai am y chwiorydd Davies cefnog, gallai Neuadd Gregynog fod wedi’i dymchwel yn y cyfnod hwn. Prynodd y ddwy y Neuadd ym 1920 er mwyn sefydlu pencadlys i’w menter oedd â’r nod o ddod â chelfyddyd, cerddoriaeth a sgiliau creadigol i bobl Cymru yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Am ugain mlynedd bu’r ty yn llawn cerddoriaeth, celfi a gwaith cerameg cain, llyfrau a argraffwyd â llaw o Wasg Gregynog ac yn fwyaf rhyfeddol oll, Margaret Sidney Daviescasgliad y chwiorydd o baentiadau gan artistiaid megis Monet, Cezanne a Van Gogh. Byddai cymeriadau fel George Bernard Shaw a Gustav Holst yn ymweld yn ystod y blynyddoedd hyn i fwynhau cyngherddau a chynadleddau - neu i ymlacio ym mhrydferthwch y gerddi a llwybrau’r coedwigoedd.

Ar ddiwedd y 1950au, ar ôl bod yn gartref gwella i’r Groes Goch yn ystod y rhyfel, cyflwynwyd Gregynog fel cymynrodd i Brifysgol Cymru i’w defnyddio fel canolfan gynadledda. Croesawyd y myfyrwyr cyntaf ym 1963 ac maent yn dal i ddod hyd heddiw. Ond mae’r hen Gregynog yn dal yn fyw - y gerddoriaeth, y gelfyddyd, y wasg, y gerddi. Mae’n lleoliad hudolus, diamser lle gallwch gerdded yn nhawelwch y cyfnos gan wrando ar drydar yr adar fel y gwnâi’r beirdd ganrifoedd yn ôl.