Wedi ei bostio ar 9 Tachwedd 2015
Mae’n bleser gan y Brifysgol gyhoeddi mai enillydd Ysgoloriaeth Plant Aberfan Prifysgol Cymru eleni yw Christie Williams.
Ar hyn o bryd mae Christie’n astudio ym Mhrifysgol Abertawe, a bydd yn derbyn grant o £1,500 i helpu i’w chefnogi drwy gyfnod nesaf ei haddysg.
Ym 1968, ymddiriedodd Cymdeithas Gymraeg San Fransisco gronfa goffa i Brifysgol Cymru er cof am y plant a fu farw yn nhrychineb glofaol Aberfan. Ddwy flynedd ynghynt lladdwyd 116 o blant ysgol pan lithrodd tomen rwbel pwll glo ar Ysgol Gynradd Pantglas yn Aberfan, yng nghanol gwersi’r bore. Bu farw 28 o oedolion hefyd yn y trychineb. Er mai pentref bach yng Nghwm Merthyr oedd Aberfan, denodd y trasiedi gydymdeimlad pobl o bedwar ban byd.
Mae’r ysgoloriaeth bellach yn fodd i annog a chynorthwyo myfyrwyr o Aberfan a’r ardal gyfagos yn y cwm i ddilyn addysg uwch. Dyfernir yr ysgoloriaeth bob blwyddyn gan Brifysgol Cymru i unigolyn ifanc o oed ysgol yr oedd ei rieni’n byw yn Aberfan ar adeg y trychineb, neu unigolyn o’r un oed sy’n byw ym Merthyr.
Mae Christie yn ei blwyddyn gyntaf ar hyn o bryd yn astudio am radd yn y Gymraeg. A hithau wedi byw yn Aberfan drwy gydol ei bywyd, mynychodd Christie Ysgol Uwchradd Afon Taf, ac wrth sefyll ei chymwysterau TGAU, sylweddolodd ei bod yn awyddus i fynd i’r Brifysgol i astudio’r iaith.
Wrth drafod ei chwrs a’i chyfnod yn y Brifysgol hyd yma, dywedodd Christie:
“Dewisais i astudio’r Gymraeg am fy mod wedi bod wrth fy modd yn dysgu’r iaith pan oeddwn i’n 15 oed, a gwybod bryd hynny fy mod am fod yn siaradwr Cymraeg rhugl. Hyd yma yn y Brifysgol mae wedi bod yn ddeufis dwys ond rwyf i wir yn mwynhau’r cwrs a’r heriau ddaw yn ei sgil. Rwyf i’n edrych ymlaen at y flwyddyn o fy mlaen.”
Gan sôn am yr hyn mae derbyn yr ysgoloriaeth hon eleni yn ei olygu iddi, dywedodd Chrisite:
“Rwyf i’n wirioneddol werthfawrogi derbyn y dyfarniad hwn. Mae’r grant yn caniatáu i fi brynu deunyddiau dysgu ychwanegol a fyddai wedi bod yn anodd i mi fel arall. Mae’r arian hefyd wedi helpu at gostau llety, ac rwy’n hynod o falch am hynny, oherwydd hebddo mae’n bosib na fyddwn i’n gallu byw ar y campws yn Abertawe. Yn gyffredinol mae’r grant wedi caniatáu i fi gael pethau na fyddwn i’n gallu talu amdanyn nhw fy hun.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr Ysgoloriaeth, gan gynnwys y rheoliadau, cysylltwch â registryhelpdeskcymru.ac.uk