Yr Athro Ann Parry Owen

Wedi ei bostio ar 5 Mai 2019
Ann02Web

Yr Athro Ann Parry Owen

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi ethol academydd blaenllaw o Brifysgol Cymru ymhlith y Cymrodyr etholedig newydd.

Mae deugain ac wyth o Gymrodyr newydd wedi ymuno â Chymdeithas Ddysgedig Cymru eleni o feysydd ar draws y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a thu hwnt. Mae’r Cymrodyr newydd oll wedi cyfrannu at fyd dysg fel ymchwilwyr, academyddion a gweithwyr proffesiynol – ac mae gan bob un gysylltiad cryf â Chymru.

Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth, ac yn gystadleuol iawn. Fe’i cynhelir yn dilyn archwiliad trylwyr o gyflawniadau’r rheini a enwebir yn eu meysydd perthnasol.

Mae’r Athro Ann Parry Owen, sy’n Athro yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, ymhlith y Cymrodyr etholedig newydd.

Dywedodd yr Athro Dafydd Johnston, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, “Mae ethol yr Athro Parry Owen i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn gydnabyddiaeth briodol o’i gwaith rhagorol ym maes llenyddiaeth Cymru’r Oesoedd Canol.”

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru “Rwyf i wrth fy modd yn croesawu 48 o Gymrodyr newydd i’r Gymdeithas. Mae eu hetholiad yn cydnabod eu llwyddiannau unigol a’u cyfraniadau i fyd dysg ac rwyf i’n falch eu bod yn cwmpasu’r fath rychwant o ddisgyblaethau ymchwil a thu hwnt. Bydd ychwanegu’r Cymrodyr newydd hyn yn cryfhau ein gallu i hyrwyddo rhagoriaeth ar draws pob maes o fewn bywyd academaidd a chyhoeddus yng Nghymru a thramor.”

Sefydlwyd y Gymdeithas yn 2010, ac rydym ni’n defnyddio gwybodaeth ein harbenigwyr i hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli dysg a darparu cyngor polisi annibynnol. Mae ychwanegu Cymrodyr newydd bob blwyddyn yn ein cynorthwyo i gyflawni’r nodau hyn drwy ein galluogi i dynnu ar arbenigedd a chryfder sylweddol ein Cymrodoriaeth gynyddol.

Etholiad 2019 yw’r nawfed mewn proses dreigl at adeiladu Cymrodoriaeth gref, gynrychioliadol. Bydd ein ffocws parhaus ar ragoriaeth a chyflawniad yn sicrhau bod y Gymrodoriaeth yn cynrychioli’r elfennau gorau sydd gan Gymru i’w cynnig o fyd dysg.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau