Prifysgol Cymru'n cyhoeddi'r Gadair Bersonol gyntaf

Wedi ei bostio ar 9 Gorffennaf 2010
christinacunliffe

Yr Athro Christina Cunliffe

Mae’n dda gennym gyhoeddi bod Cadair Bersonol gyntaf Prifysgol Cymru yn un o’n Canolfannau ar y cyd wedi ei dyfarnu i’r Athro Christina Cunliffe, Pennaeth Coleg Ceiropracteg McTimoney yn Abingdon.

Yn ddiweddar, cymeradwyodd y Bwrdd Academaidd gynigion gan ei Fwrdd Dilysu i sefydlu dyfarniadau o Ddarllenyddiaethau a Chadeiriau Personol Prifysgol Cymru i aelodau o staff ein canolfannau ar y cyd.

Yn dilyn hynny, ystyriwyd addasrwydd yr ymgeiswyr gan Bwyllgor Penodi ffurfiol Prifysgol Cymru. I gael Cadair Bersonol wedi ei dyfarnu, mae gofyn i ymgeisydd fod yn aelod llawn amser o’r staff ac yn addysgu cynlluniau Prifysgol Cymru mewn cymar sefydliad ar y cyd a ddilyswyd gan y Brifysgol ers o leiaf ddeng mlynedd. Rhaid i ymgeiswyr hefyd arddangos bod iddynt enw rhyngwladol rhagorol mewn ystod o feysydd, gan gynnwys ymchwil, addysgu, cynllunio cwricwlwm, eu safle broffesiynol a rheoli academaidd.

Anrhydeddwyd yr Athro Christina Cunliffe yn sgîl ei gwaith rhagorol mewn Addysg Uwch dros nifer o flynyddoedd. Derbyniodd ei PhD o Brifysgol Manceinion, ac mae’n raddedig o Goleg Ceiropracteg McTimoney yn Abingdon. Mae’n aelod o Gyngor Cyffredinol Ceiropracteg gan eistedd ar ei Bwyllgor Addysg. Hi hefyd yw Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Adnoddau. Yn ogystal, mae’r Athro Cunliffe yn Gymrawd o Goleg y Ceirpractyddion, ac yn gyfredol, deil swydd Trysorydd Cyngor y Coleg. Hi fu Pennaeth Coleg Ceiropracteg McTimoney, un o gymar sefydliadau ar y cyd Prifysgol Cymru, a leolir yn Abingdon, er 1998. Mae hi hefyd yn ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgolion Rhydychen, Warwick ac Oxford Brookes a deil i ymarfer Ceiropracteg yn Swydd Rhydychen.

Eglurwyd arwyddocâd Cadair Bersonol Prifysgol Cymru gan yr Athro Nigel Palastanga, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru dros Addysgu a Dysgu:

“Mae i unrhyw brifysgol ddyfarnu Cadair Bersonol i aelod o staff yn gydnabyddiaeth o’r parch academaidd rhyngwladol sydd iddynt. Christina Cunliffe yw’r aelod cyntaf o staff un o’n canolfannau ar y cyd i ennill anrhydedd o’r fath gan Brifysgol Cymru ac rydym yn hapus iawn i ddyfarnu ein Cadair Bersonol i ysgolhaig o’r fath enwogrwydd.”

Ychwanegodd yr Athro Cunliffe:

“Rwyf wrth fy modd o dderbyn yr anrhydedd hon gan brifysgol y mae iddi gymaint o barch, a gall hyn wneud dim ond gwella lle ceirpracteg o fewn y gymuned academaidd.”

/Diwedd

Nodiadau i Olygydion:

I ddysgu mwy am Brifysgol Cymru, ewch i: www.cymru.ac.uk 

Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk




Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau