Wedi ei bostio ar 10 Awst 2010

Cynhadledd 2009
Rydym ni’n falch iawn i gyhoeddi y cynhelir Cynhadledd Gweinyddiaeth ac Ansawdd Prifysgol Cymru 2010 yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ar 12 a 13 Awst.
Bydd y gynhadledd yn werthfawr iawn i staff sydd â chyfrifoldeb am faterion gweinyddol a/neu ansawdd. O ganlyniad byddem yn falch i weld o leiaf un cynrychiolydd o bob canolfan gydweithredol yn dod i’r gynhadledd.
Ymysg y cyflwyniadau sydd wedi’u cadarnhau mae:
Turnitin: Sefydlu Polisïau Gweithredol. Cyflwynir gan Anne Flood, Northumbria Learning
Cadeirio Cyfarfodydd yn Llwyddiannus. Cyflwynir gan Kate O’Sullivan, Dirprwy Is-Ganghellor, PC
Defnyddio cronfeydd data NARIC. Cyflwynir gan Poppy Sharpe & Luke Galliger, NARIC
Arferion gorau wrth baratoi eich Adolygiad Cwrs a Choleg Blynyddol. Cyflwynir gan Kate Bookless & Dr Neil Strevett
Trosolwg o’r broses achredu BAC. Cyflwynir gan Dr Gina Hobson, BAC
Ffi’r gynhadledd yw £50 i bob cynrychiolydd a fydd yn cynnwys cost yr holl sesiynau, cinio a lluniaeth. Mae’r ffi hefyd yn cynnwys cost cinio’r gynhadledd a gynhelir eleni yn Stadiwm Mileniwm Cymru.
Cliciwch y ddolen yma i gael manylion cychwynnol yr amserlen/sesiynau:
http://www.wales.ac.uk/en/Institutions/InformationforCollaborativeCentres/ValidationUnitConferences/AdministrativeQualityConference2010.aspx
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Claire Morgan: validationconferences@wales.ac.uk
/Diwedd
Am fwy o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk