Wedi ei bostio ar 19 Hydref 2009

Yr Athro Palastanga gyda Llywydd MTI.
Yr wythnos diwethaf roedd Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, Yr Athro Nigel Palastanga, yn Yr Aifft i gyfranogi o’r seremoni raddio a gynhaliwyd ar gyfer graddedigion Prifysgol Cymru yn Prifysgol Fodern Technoleg a Gwybodaeth (MTI) Cairo. Derbyniodd Yr Athro Palastanga y myfyrwyr llwyddiannus i’w graddau ar ran y Brifysgol.
Mae'r Brifysgol yn dilysu rhaglenni gradd MTI mewn amrywiaeth eang o bynciau ym meysydd busnes, peirianneg, cyfrifiadura a chyfathrebu.