Myfyrwyr Cyfnewid i Ysgol y Tywysog

Wedi ei bostio ar 19 Hydref 2009

Myfyriwr mewn stiwdio yn Ysgol y Tywysog

Mae Ysgol Celfyddydau Traddodiadol y Tywysog, un o’r sefydliadau y mae’r Brifysgol yn darparu dilysrwydd ar ei gyfer, wedi croesawu y ddau fyfyriwr cyfnewid cyntaf o Universiti Brunei Darussalam, gan adlewyrchu’r cyswllt addysgol cynyddol rhwng Brunei Darussalam a’r DU.

Bydd Ampuan Siti Ramlah Ampuan Babba a Mohamed Rusydi Roseli, sydd ill dau’n fyfyrwyr ail flwyddyn yn UBD, yn treulio blwyddyn yn astudio Celfyddydau Gweledol Islamaidd a Thraddodiadol yn Ysgol y Tywysog, fel rhan o raglen gyfnewid ryngwladol y cytunwyd arni yn dilyn ymweliad Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, a sefydlodd yr ysgol, â Brunei y llynedd.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori