Wedi ei bostio ar 9 Awst 2010

Yr Athro Palastanga a Graddedigion MCC
Mae Prifysgol Cymru yn falch i longyfarch un o’i chanolfannau cydweithredol, Coleg Magna Carta, (MCC), wrth i’r sefydliad gynnal ei seremoni raddio gyntaf.
Dathlodd raddedigion newydd cwrs MBA Prifysgol Cymru eu llwyddiant yn ystafelloedd arholi Prifysgol Rhydychen. ‘Roedd yr Athro Nigel Palastanga, ein Dirprwy Is-Ganghellor, yn bresennol yn seremoni ar ran Prifysgol Cymru.
Yn cyfuno ymdrechion academwyr o Brifysgolion Rhydychen, Llundain a Birmingham , sefydlwyd MCC yn 2007 gan yr Athro David Faulkner fel Coleg breifat yn cynnig cyfleusterau Rhydychen i fyfyrwyr y Gyfaith a Busnes. Mae’r Athro Faulkner wedi dysgu ym Mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a’r Brifysgol Agored ymhlith llawer o sefydliadau mawreddog eraill.
Mae’r athrawon a’r darlithwyr sy’n cyflwyno’r cyrsiau i’r Colegau oll â chefndiroedd nodedig ac mae cyfadran yr MCC yn cynnwys cyn-aelodau Prifysgolion Rhydychen a’r Russell Group.
Mae’r MMC yng nghalon Rhydychen ac mae myfyrwyr yn medru manteisio ar gyfleusterau Prifysgol Rhydychen yn cynnwys Llyfrgell fyd-enwog Bodleian. Mae modd iddynt hefyd ymaelodi ag Undeb Prifysgol Rhydychen.
Mae Prifysgol Cymru wedi dilysu cwrs MBA y MCC ers 2007.
/Diwedd
Nodiadau i Olygyddion:
Am fwy o wybodaeth am Goleg Magna Carta Rhydychen:
http://www.magnacartacollege.org/about
Am fwy o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i:
www.cymru.ac.uk Am wybodaeth y wasg a’r cyfryngau ar gyfer Prifysgol Cymru, cysylltwch â: Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru:
t.barrett@cymru.ac.uk