Cynghrair Strategol â Choleg yr Iesu Rhydychen ym maes Astudiaethau Celtaidd

Wedi ei bostio ar 14 Rhagfyr 2018
UW Roundel

Astudiaethau Celtaidd

Cynghrair Strategol â Choleg yr Iesu Rhydychen ym maes Astudiaethau Celtaidd

Cyhoeddodd Cynghorau Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant bod y ddwy brifysgol yn cydweithio gyda Choleg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen, fel rhan o gynghrair strategol er mwyn meithrin cyfleoedd newydd i hyrwyddo Astudiaethau Celtaidd a Chymreig.

Gan adeiladu ar waith ac arbenigedd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Geiriadur Prifysgol Cymru a Chyfadran y Dyniaethau yn y Drindod Dewi Sant yn Llambed, bydd hyn yn ddatblygiad strategol dros gyfnod o bum mlynedd a fydd hyrwyddo ymchwil ac addysgu ar lefel rhyngwladol. 

Meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor “Cydnabyddir Cadair Gelteg Syr John Rhys fel cyrchfan o bwys ar gyfer ysgolheictod Celtaidd ar draws y byd. Y mae hyn yn gyfle arbennig i ail-sefydlu’r Gadair hanesyddol hon gan adeiladu ar y traddodiad maith sydd wedi bodoli rhwng Cymru a Choleg yr Iesu ym maes Celteg ac Astudiaethau Cymreig.  

“Mae ein cydweithrediad â Choleg yr Iesu yn cynnig cyfle unigryw inni adeiladu perthynas academaidd rhwng y sefydliadau er budd Astudiaethau Celtaidd a’r Gymraeg a hynny ar y lefel rhyngwladol uchaf”, ychwanegodd.

Aeth Coleg yr Iesu ati i ail-sefydlu’r gadair hanesyddol a enwid ar ôl y cymro amryddawn Syr John Rhys a oedd yn Athro Celteg cyntaf Prifysgol Rhydychen yn 1877.  Yn dilyn ymgyrch helaeth, cyhoeddodd y Coleg ei fod wedi cyrraedd ei nod o ariannu’r Gadair. Gwelodd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant y cyfle o adeiladu ar gynsail academaidd ac ysgolheictod y ddwy Brifysgol ym maes Astudiaethau Celtaidd a Chymraeg.  “Mae gan y ddwy Brifysgol gyfoeth o adnoddau ac arbenigedd yn y meysydd hyn a bydd y gynghrair strategol rhwng y Prifysgolion a Choleg yr Iesu yn gyfle inni symud ymlaen â’n cynllun academaidd a fydd yn cynnwys datblygu meysydd addysgu, cryfhau ysgolheictod ac  ymchwil” ychwanegodd yr Athro Hughes.

 

  

  

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau