Penodi Cadair Ymchwil Prifysgol Cymru newydd

Wedi ei bostio ar 24 Medi 2010
alliancechair

Yr Athro Richard Day

Rydym yn falch o gyhoeddi mai’r Athro Richard Day o Brifysgol Glyndŵr yn Wrecsam yw’r ail unigolyn i dderbyn Cadair Ymchwil Prifysgol Cymru.

Mae’r nawdd yn rhan o amcan Prifysgol Cymru o gefnogi lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a deallusol Cymru. Bydd yn cefnogi’r gwaith o adeiladu a gwella gallu ymchwil addysg uwch yng Nghymru, yn gyson â chenhadaeth y sefydliad ac â’r sectorau blaenoriaeth a ddynodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’r Athro Richard Day yn raddedig o brifysgolion Bryste a Llundain. Cafodd radd PhD mewn Ffiseg o Lundain cyn symud i Brifysgol Manceinion lle treuliodd 23 o flynyddoedd yn yr Ysgol Deunyddiau gan ddatblygu yn ystod y cyfnod hwnnw i fod yn ddarllenydd. Mae diddordebau ymchwil yr Athro Day yn eang ac mae wedi gweithio ar brosesu polymer yn ogystal â chynhyrchu a nodweddu cyfansoddion matrics polymer a cherameg ac ewynnau polymer.

Gan gydnabod mai problem ddiwydiannol allweddol yn yr holl ddeunyddiau hyn yw’r cyflymder y gellir cynhyrchu deunyddiau a strwythurau, mae wedi neilltuo’r mwyafrif o’i ymchwil i chwilio am ffyrdd i leihau’r amser cynhyrchu. Mae’r rhain yn cynnwys y defnydd o dechnegau a allai fod yn gyfarwydd yn y gegin: microdonnau a’r defnydd o gyfryngau trosglwyddo gwres hylifol (ffrïo dwfn). Mae gan yr Athro Day ddiddordeb nid yn unig mewn cynyddu cyfradd y cynhyrchu ond hefyd cynnal ansawdd y deunyddiau a’r strwythurau a grëir. 

Yr Athro Day hefyd oedd Cyfarwyddwr cyntaf y Northwest Composites Centre, cynghrair sy’n cynnwys Prifysgolion Manceinion, Lerpwl, Bolton, Caerhirfryn a Glyndŵr. Mae bellach yn gweithio i Brifysgol Glyndŵr fel Athro Peirianneg Cyfansoddion Prifysgol Cymru. O ddechrau fis Hydref, bydd yr Athro Day yn symud i weithio yn yr ‘Advanced Composite Training and Development Centre’, sef partneriaeth newydd rhwng Airbus; Prifysgol Glyndŵr; Coleg Glannau Dyfrdwy a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Ar gael ei benodi i Gadair Ymchwil Prifysgol Cymru, dywedodd yr Athro Day:

“Rwyf wrth fy modd i dderbyn y fraint hon yn dilyn fy apwyntiad diweddar ym Mhrifysgol Glyndŵr. Edrychaf ymlaen i gydweithio gydag aelodau Cynghrair Prifysgol Cymru, yn arbennig yr Athro Kelvin Donne, a wnaeth dderbyn Cadair Ymchwil gyntaf y Brifysgol. Yn dilyn amcanion Prifysgolion Cymru a Glyndŵr, mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu cyfansoddion er mwyn hybu ystod eang o ddiwydiannau yng Nghymru.”

Gan longyfarch yr Athro Day, dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, yr Athro Marc Clement:

“Rwyf i wrth fy modd yn croesawu Richard Day yn Athro Peirianneg Cyfansoddion Prifysgol Cymru; bydd ei ymagwedd arloesol yn cyfrannu’n fawr at ymchwil diwydiannol Cynghrair Prifysgol Cymru, sy’n canolbwyntio ar helpu i hybu economi busnes Cymru.”

Mae hon yn un o saith Cadair Ymchwil newydd a ariennir gan y Brifysgol, gyda phump ohonynt wedi’u lleoli mewn sefydliadau sy’n ffurfio ‘Cynghrair Prifysgol Cymru’ sy’n cynnwys Prifysgol Cymru; Prifysgol Fetropolitan Abertawe; Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC); Prifysgol Cymru, Casnewydd; Prifysgol Glyndŵr a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Bydd y cadeiriau hyn hefyd yn ganolbwynt ar gyfer gwaith ar fentrau ar draws y Gynghrair. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda rhaglen diwydiant pwysig y Brifysgol, sef Ysgoloriaethau Arloesi Tywysog Cymru (POWIS).

/Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

Mae Prifysgol Glyndŵr yn rhan o Gynghrair Prifysgol Cymru sydd hefyd yn cynnwys Prifysgol Cymru; Prifysgol Fetropolitan Abertawe; Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC); Prifysgol Cymru, Casnewydd; Prifysgol Glyndŵr a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Amcan Cynghrair Prifysgol Cymru yw cyfoethogi ac uchafu Addysg Uwch yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Glyndŵr ewch i: www.glyndwr.ac.uk/

I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk

I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Joanna Davies, Pennaeth Cyfathrebu Prifysgol Cymru: j.davies@cymru.ac.uk neu ffoniwch 07534 228 754.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau