Cynhadledd Tridiau NEXUS 2017 lwyddiannus wedi'i chynnal

Wedi ei bostio ar 10 Mai 2017
Nexus2017

Mae ein partner uno, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCDDS) wedi hoelio’r sylw ar y berthynas agos sy’n bodoli rhwng ymchwil ac addysgu mewn Addysg Uwch yng nghynhadledd tridiau NEXUS Cymru 2017.

Cadeirydd y digwyddiad a gynhaliwyd yng Nghanolfan Dylan Thomas Abertawe rhwng 3 a 5 Mai oedd yr Athro Simon Haslett, a’r nod oedd rhoi platfform er mwyn datblygu’r cysylltiadau hynny ymhellach. Mae’r Athro Haslett yn Dirprwy Is-Ganghellor yn PCDDS a Phrifysgol Cymru gyda chyfrifoldeb am weithgareddau Rhyngwladol a Chyfoethogi ar draws y ddau sefydliad.

Diffinnir y cysylltiadau rhwng ymchwil ac addysgu’n eang er mwyn cynnwys ysgolheictod dysgu ac addysgu, addysgu a lywiwyd gan ymchwil, a’r plethwaith ymchwil-addysgu. Yn y gynhadledd NEXUS integreiddiwyd ymchwil pynciol ac amlddisgyblaethol gyda’r cwricwlwm, addysgu a dysgu, ac roedd gan y gynhadledd amrywiaeth o gyfraniadau sy’n rhannu syniadau a dulliau cyfoes ym maes dysgu ac addysgu.

Cafwyd prif anerchiadau a symposia yn y Gynhadledd, a oedd yn cynnwys cyflwyniadau a gweithdai, a chafwyd cipolwg gwerthfawr ar amrywiaeth o bynciau cyfoes ym maes addysgu a dysgu mewn addysg uwch.

Roedd y Prif Siaradwyr yn cynnwys Dr Colin Jones o Brifysgol Technoleg Queensland, a theitl y cyflwyniad oedd, ‘Beyond Endless Optimism: Educating the Uneducated’. Siaradodd Deon Cynorthwyol Ymchwil a Throsglwyddo Gwybodaeth Y Drindod Dewi Sant, Dr Jane Waters, a Chyfarwyddwr Rhaglen Cyfadran Addysg a Chymunedau Y Drindod Dewi Sant, Dr Jan Barnes, ar y pwnc, ‘Assessing fitness for the future: the case of Initial Teacher Education’. Roedd Dr Paul Jeff, Cyfarwyddwr Graddau Ymchwil yng Nghyfadran Celf a Dylunio Y Drindod Dewi Sant, yr Uwch Ddarlithydd yng Nghyfadran Celf a Dylunio Y Drindod Dewi Sant, James Williams, ac roedd yr Athro Cysylltiol, Chris House, a Dr Nick Whitehead o’r Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg, hefyd ymhlith y rhai a gymerodd ran.

Ar ôl y gynhadledd, byddwn ni’n creu adnodd cynhwysfawr a threfnu ei fod ar gael drwy wefan PCDDS yn gymynrodd barhaol. Yn ogystal hyhoeddir Trafodion y Gynhadledd, a gwahoddwyd pob cyfrannwr i gyflwyno cyfraniad i’r rhain.

Meddai’r Athro Haslett: ‘A minnau’n rhywun sy’n poeni’n angerddol; am ddysgu ac addysgu, yn ogystal â gwaith ymchwil. Roedd yn bleser i mi Gadeirio’r Gynhadledd. Daeth â staff at ei gilydd o bob cwr o’r sector Addysg Uwch yng Nghymru ac yn rhyngwladol, ac roedd hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan fyfyrwyr. I mi, mae’r brifysgol yn gymuned sy'n cynnwys ei staff a’i myfyrwyr, a dangosodd y Gynhadledd hon pa mor fywiog yw cymuned fywiog Y Drindod Dewi Sant pan ddaw ynghyd i ganolbwyntio ar themâu addysgol ac arloesi pedagogaidd sydd mor gyffrous.’

Ychwanegodd yr Athro Andy Penaluna: ‘Wrth i mi gadeirio Diwrnod Mentergarwch Y Drindod Dewi Sant, roedd fy meddwl i’n chwyrlio. Colin Jones o Brisbane yw un o Athrawon gwadd IICED ac mae bob amser yn gwneud i ni feddwl. Gwnaeth ei syniad y dylai pob un ohonom ni ddod yn ‘Anturiaethwyr Rhesymol’ daro deuddeg, a hynny am fod rhaid i ni weithio’n brydlon i fynd ar y blaen mewn bywyd. Yn ystod y 10 mlynedd nesaf, bydd 75 y cant o weithlu’r byd yn ‘blant y Mileniwm’, sef pobl sydd wedi tyfu ym myd y rhyngrwyd... a thechnoleg nad yw byth yn aros yn llonydd. Maen nhw’n meddwl ac yn cyfathrebu’n wahanol i a

chyfathrebant yn wahanol i genedlaethau hŷn, a helpodd Jenny Williams ni i weld yr effaith y gallai hyn ei chael ar yr hyn a wnawn ni ym myd addysg. Mae’n wych bod digwyddiadau’r Drindod Dewi Sant tebyg a hwn yn help go iawn i ni ddiogelu’r hyn a wnawn ni i'n myfyrwyr rhag newidiadau’r dyfodol.”

Meddai un o fyfyrwyr TAR/PCET Y Drindod Dewi Sant, Carl Singleton, a oedd yn bresennol yn y gynhadledd: “Gan fod fy mryd i ar fod yn athro, roedd Cynhadledd Nexus yn werthfawr dros ben. Cynigodd drosolwg hanfodol ar syniadau a mentrau cyfoes oddi mewn i fyd addysg, yn ogystal â chipolwg ar y strategaethau addysgu a dysgu mwyaf cyfredol. Roedd yn gyfle rhwydweithio delfrydol. Rwy’n teimlo i mi elwa’n sylweddol.”

Mae fideos a’r cyflwyniadau power point Cynhadledd NEXUS Cymru 2017 bellach ar gael yma: http://www.uwtsd.ac.uk/cy/cynhadledd-nexus-cymru-2017/crynodeb/

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau