Cynhadledd ymchwil myfyrwyr - Barn Cyfranogwr
Yn ddiweddar rwyf i wedi cwblhau gradd BA (Anrhydedd) mewn Seicoleg a Chynghori ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe. Fel myfyriwr trydedd flwyddyn diymhongar es ati i fentro a cheisio cyflwyno poster i Gynhadledd Myfyrwyr Ymchwil Prifysgol Cymru 2012. Fodd bynnag fel myfyriwr aeddfed oedd wedi gwneud rhywfaint o brosiectau ymchwil roeddwn i’n teimlo y gallai’r gynhadledd fod yn fuddiol i fy uchelgais i sicrhau graddau uwch a gyrfa yn academia.
Bûm i mewn sawl cynhadledd eleni oedd yn cynnwys amrywiaeth o gyflwyniadau a’r detholiad arferol o nwyddau am ddim. Roedd Cynhadledd Myfyrwyr Ymchwil Prifysgol Cymru’n wahanol drwy fod yn rhyngweithiol o’r dechrau ac roedd hyn yn ddefnyddiol iawn i ddod i adnabod pobl eraill. Yn gyffredinol roedd ansawdd y sgyrsiau / cyflwyniadau allanol yn uchel iawn gyda gwybodaeth berthnasol drwyddi draw. Yn bersonol y sgyrsiau ar ddilyniant MPhil i PhD, ac ar ddatblygiad gyrfa gan Vitae oedd fwyaf defnyddiol i mi. Fodd bynnag y sgyrsiau bwrdd oedd fy hoff ran o’r gynhadledd, gan eu bod yn rhoi cyfle i drafod pryderon myfyrwyr ymchwil a chynnig datrysiadau. Yn bennaf roeddent yn caniatáu i fyfyrwyr sylweddoli nad ydynt ar eu pen eu hunain o ran academia a chyllido.
Roeddwn wrth fy modd bod fy mhoster wedi ennill y wobr yn y gystadleuaeth poster yn wyneb ansawdd uchel y gwaith arall, ac mae’r gyriant caled yn ddefnyddiol yn barod. Dwyf i ddim wedi penderfynu pa gynhadledd i fynd iddi gyda’r wobr ariannol, ond Cynhadledd Seicoleg Gymdeithasol BPS yn St Andrews sydd ar frig y rhestr. Diolch o galon i Brifysgol Cymru am y cyfle i ddod i’r gynhadledd, ac am y gwobrwyon. Rwy’n gobeithio dod eto’r flwyddyn nesaf!
Mr Paul Grey, Myfyriwr Israddedig ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe
Enillydd Cystadleuaeth Poster Cynhadledd Myfyrwyr Ymchwil 2012
Yr ymchwil
Tua diwedd fy ail flwyddyn cefais grant Cynllun Cynorthwyydd Ymchwil Israddedig BPS i ymchwilio a oedd yr arddull rhianta a brofwyd yn blentyn yn gallu dylanwadu ar ganfyddiad mynegiant emosiynol yr oedolyn. Roedd yr astudiaeth yn estyn ymchwil doethurol diweddar a wnaed ym Met Abertawe gan ffurfio rhan o fy nhraethawd ymchwil blwyddyn olaf. Lluniais boster o’r prosiect i’w gyflwyno mewn cynadleddau. Mae papurau academaidd ar y gweill i’r ddau brosiect.
Ar wahân i‘r prosiect hwn mae gennyf ddiddordebau ymchwil eang gan gynnwys canfyddiad cymdeithasol, agwedd a newid agwedd; yn enwedig mewn perthynas â materion amgylcheddol megis dyfodol ynni, a materion iechyd a lles.
