Taith Astudio Siapan AUA

Wedi ei bostio ar 17 Mai 2012
Japan Crossing

Ym mis Hydref 2011, cefais fy nethol i ymuno â grŵp o naw o weinyddwyr o Brifysgolion ar draws y DU i ymgymryd â thaith astudio i Siapan. Gyda'n gilydd buom yn ymweld â nifer o brifysgolion Siapaneaidd er mwyn cyd-awduro adroddiad i'r Gymdeithas Gweinyddwyr Prifysgol (AUA), gan edrych ar y meysydd canlynol:

 - Rhyngwladoli a phrofiad y myfyriwr;
 - Cyflogadwyedd a'r farchnad swyddi i raddedigion;
 - Sicrhau ac uchafu ansawdd.

Fel Swyddog Cyswllt Myfyrwyr, roedd diddordeb arbennig gennyf yn y ffordd yr oedd profiad myfyrwyr yn cael ei effeithio gan system AU Siapan. Sut roedd y profiadau hyn yn wahanol i rai myfyrwyr yn y DU, a beth oedd i ni ei ddysgu ganddynt?

Mae gan Siapan hanes hir o Addysg Uwch, a chyfanswm o 752 o Brifysgolion - gyda 591 wedi'u hariannu'n breifat. Caiff pob un ei monitro'n fewnol a chan y Weinyddiaeth Addysg.  Clywsom fod dros 55% o boblogaeth Siapan yn mynychu'r Brifysgol ac mae'r mwyafrif o fyfyrwyr yn ymgeisio drwy arholiadau mynediad. Mae cystadleuaeth am fynediad i'r sefydliadau gorau'n frwd gan fod mynd i'r Brifysgol yn cael ei ystyried yn gam cyntaf at lwybr gyrfa lwyddiannus. Mae'r farchnad swyddi i raddedigion yn Siapan yn wahanol iawn i'r DU. Mae cyflogaeth gorfforaethol, yn enwedig gydag un o gewri diwydiant Siapan, yn parhau'n ddyhead pwysig ymysg graddedigion. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn chwilio am gyflogaeth yn ystod eu trydedd flwyddyn o astudio, er mwyn iddynt allu mynd i weithio yn syth ar ôl graddio.

O ganlyniad i hyn, nid yw strwythur Siapan yn caniatáu hyblygrwydd i fyfyrwyr gymryd semester i astudio dramor. Yn hytrach, mae'n annog myfyrwyr rhyngwladol i ymgeisio am gyrsiau a’u mynychu yn Siapan. Mae menter wedi'i sefydlu gan y llywodraeth o'r enw ‘Global 30’, sy'n cynnwys 13 o Brifysgolion. Mae hyn yn golygu bod rhai cyrsiau yn y Prifysgolion hyn yn cael eu cyflenwi'n Saesneg, gan siaradwyr Saesneg iaith gyntaf, gyda myfyrwyr o Tsieina, Corea ac America yn mynychu. I fyfyrwyr cartref, fodd bynnag, er bod profiad rhyngwladol yn bwysig i gwmnïau, gwelsom fod sgiliau cyfathrebu yn cael eu hystyried yn bwysicach, a bod cwmnïau’n disgwyl hyfforddi eu cyflogeion yn hyn o beth os oedd angen.

Yn Siapan, mae gweithwyr yn aml yn aros gyda chwmni drwy eu hoes - er bod hyn yn newid, gyda llawer mwy o hela pennau'n digwydd. Fodd bynnag mae'n ymddangos fod perthynas agos rhwng diwydiant ac AU. Yn y rhan fwyaf o achosion mae enw da Prifysgol benodol yn dibynnu fwy ar lwyddiant ei chyn-fyfyrwyr, ac ar ei hystadegau recriwtio, gyda llai o bwyslais ar allbwn ymchwil yn enwedig mewn cymhariaeth â disgwyliadau yn y DU.

Mae cysylltiad clos rhwng gwerthuso sicrhau ansawdd ag atebolrwydd yn nhermau cefndir cyllido'r sefydliad. Yn Siapan mae'r 86 o Brifysgolion cenedlaethol yn derbyn 55% o'u hincwm gan y llywodraeth, tra bo'r 591 o Brifysgolion preifat yn derbyn 11% yn unig ac yn llawer mwy dibynnol ar ffioedd myfyrwyr a chyllid preifat. Mae’r system genedlaethol newydd o werthuso Prifysgolion yn cael ei defnyddio’n yn yr holl fathau o sefydliadau. O fewn y system hon, mae canmoliaeth arbennig i'r kosen, y Colegau Technoleg, am eu lefelau uchel o sicrwydd ansawdd, sydd wedi cael eu datblygu i ymateb i angen lleol. Dysgom y gellid ystyried meysydd megis marchnata, cyflogaeth a rheolaeth sefydliadol fel astudiaethau achos ymarfer gorau. Mae gan Siapan strwythur gwahanol iawn ac agwedd wahanol at addysg i'r hyn a geir yn y DU, ac roeddem yn gynhyrfus ac yn ddiolchgar i gael cyfle i ddysgu mwy amdano.  Bydd yr adroddiad o’r daith astudio hon yn cael ei gyhoeddi’n swyddogol gan yr AUA.

Harriet Brewster, Swyddog Cyswllt Myfyrwyr

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau