Cymrodoriaethau Noddedig yr ACU

Wedi ei bostio ar 25 Ebrill 2014

Cymdeithas Prifysgolion y Gymanwlad (ACU) yw rhwydwaith prifysgolion rhyngwladol cyntaf a hynaf y byd. Fe’i sefydlwyd ym 1913.

Mae’r ACU yn elusen sydd wedi’i chofrestru yn y DU, ac mae iddi dros 500 o aelod-sefydliadau mewn gwledydd datblygedig a gweledydd sy’n datblygu ar draws y Gymanwlad. Gan dynnu ar brofiad cyfunol ac arbenigedd ein haelodau, mae’r ACU yn ceisio mynd i’r afael â materion ym maes addysg uwch yn rhyngwladol drwy amrywiaeth o brosiectau, rhwydweithiau a digwyddiadau.

Mae’r ACU yn gweinyddu ysgoloriaethau, darparu ymchwil academaidd ac arweiniad ar faterion yn y sector, gan hyrwyddo cydweithio rhwng prifysgolion a rhannu ymarfer da - helpu prifysgolion i wasanaethu eu cymunedau, nawr ac yn y dyfodol.

Amcan Cymrodoriaethau Noddedig y ACU (a gyllidir gan Gronfa Datblygu Cymrodoriaethau’r ACU) yw galluogi’r prifysgolion yn y Gymanwlad i ddatblygu adnoddau dynol eu sefydliadau a’u gwledydd, drwy gyfnewid pobl, gwybodaeth, sgiliau a thechnolegau.

Maen nhw’n cynnig cyfleoedd i staff o brifysgolion sy’n aelodau, ynghyd â gweithwyr mewn diwydiant, masnach neu’r gwasanaethau cyhoeddus mewn gwlad yn y Gymanwlad i dreulio cyfnodau mewn prifysgolion eraill neu sefydliadau perthnasol y tu hwnt i’w gwledydd eu hunain.

Mae diben pwrpasol i bob un o’r Cymrodoriaethau, a sylfaenwyd gan noddwyr penodol.

Ceir rhestr lawn o’r dyfarniadau sydd ar gael, gan gynnwys gwybodaeth am feini prawf cymhwyster, ar wefan ACU www.acu.ac.uk/membership/grants-awards/titular-fellowships/

Bydd ceisiadau am Gymrodoriaethau Noddedig y ACU 2014 yn cael eu derbyn rhwng 1 Ebrill a 1 Mehefin 2014.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau