Wedi ei bostio ar 29 Ebrill 2013
Hoffai yr Association of Commonwealth Universities (ACU) eich hysbysu bod ei Rwydwaith Cyflogaeth i Raddedigion, ar y cyd ag Universities New Zealand - Te Pokai Tara, yn falch i gyhoeddi cynhadledd sydd i’w chynnal yn Ysgol Fusnes Prifysgol Auckland, Seland Newydd rhwng 11 a 13 Gorffennaf 2013.
Bydd thema cynhadledd eleni - "Exploring the value of higher education to the economy"- yn edrych ar y graddau y gall graddedigion prifysgol fodloni eu dyheadau eu hunain yn ogystal â disgwyliadau cymdeithas ohonynt.
Bydd y gynhadledd yn trafod cwestiynau megis:
- Ydy graddedigion heddiw yn gyflogadwy?
- Sut ydym ni’n mesur eu gwerth i’r economi?
- Ydy prifysgolion yn addas at y dyfodol?
- A ddylai cyflogadwyedd graddedigion fod yn faen prawf allweddol?
- A ddylid cael mwy o symud rhwng y sectorau TVET ac AU?
- Ydy anfodlonrwydd myfyrwyr yn fater o gynyddol bwys?
Bydd Dr Andreas Schleicher, Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg, OECD, yn traddodi’r brif araith, gyda chyfraniad posibl gan y Gwir Anrhydeddus Steven Joyce, y Gweinidog Addysg Drydyddol, Sgiliau a Chyflogaeth, Seland Newydd.
Y nod yw y bydd y gynhadledd o werth i’r sawl sy’n gweithio yn y gwasanaethau gyrfaoedd, a hefyd, yn hanfodol, i’r sawl sy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol prifysgolion, datblygu cwricwlwm, a datblygu partneriaethau - yn rhyngwladol, gyda diwydiant, y sector preifat a chyn-fyfyrwyr.
Gweler Auckland 2013 subsite am ragor o wybodaeth neu cysylltwch â graduate.employment@acu.ac.uk