Welsh Responses to the French Revolution: Press and Public Discourse, 1789-1802

Wedi ei bostio ar 30 Ebrill 2012
Welsh Reponses

Y Chwyldro Ffrengig ym 1789 o bosibl oedd digwyddiad diffiniol y cyfnod Rhamantaidd yn Ewrop. Arweiniodd at aflonyddu trefn cymdeithas, a hefyd iaith a syniadaeth.

Y llenyddiaeth gyfresol gyfredol yng Nghymru rhwng 1789 a 1802 yw’r ystorfa gyhoeddus bwysicaf o ymatebion radical, teyrngarol a gwladgarol o Gymru i’r Chwyldro Ffrengig a’r Rhyfeloedd Chwyldroadol.

Ychydig sydd wedi’i ysgrifennu am yr ymateb yng Nghymru i’r Chwyldro Ffrengig ond y mis hwn mae Gwasg Prifysgol Cymru yn cyhoeddi Welsh Responses to the French Revolution: Press and Public Discourse, 1789-1802 gan Marion Löffler, sy’n archwilio’r diwylliant cyhoeddi a’r llenyddiaeth gyfresol oedd yn gyfredol yng Nghymru ar y pryd, gan ddadansoddi’r disgwrs cyhoeddus.

Fel rhan o gyfres Cymru a’r Chwyldro Ffrengig, mae’r antholeg hon yn cyflwyno detholiad o farddoniaeth a rhyddiaith a gyhoeddwyd yn yr almanaciau blynyddol Cymraeg, y papurau newydd rhanbarthol Saesneg a gyhoeddwyd yn agos i ffin Cymru a’r tri chyhoeddiad radical Cymreig yn ystod canol y 1790au. Mae’r holl destunau Cymraeg wedi’u cyfieithu, gan olygu bod modd i gynulleidfa Saesneg ei hiaith eu darllen am y tro cyntaf.

Mae’r detholiad hwn o destunau yn helpu’r darllenydd i osod lleisiau a safbwyntiau o Gymru o fewn y cyd-destun gwleidyddol Prydeinig, ac eto mae’n caniatáu iddynt ysgrifennu eu hanes eu hunain o’r degawd nodedig hwn yng Nghymru.

Cymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth yw Dr Marion Löffler ac ar hyn o bryd mae’n rhan o’r prosiect genre ar Gymru a’r Chwyldro Ffrengig. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar gydadwaith iaith, hanes, diwylliant a chenedlaetholdeb, pwysigrwydd cyfnodolion a disgwrs cyhoeddus i ddatblygu a rhannu syniadau, a chreu cof cyhoeddus drwy ddisgwrs cyhoeddus o’r fath.

/Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

(Ebrill 2012) Welsh Responses to the French Revolution: Press and Public Discourse, 1789-1802 gan Marion Löffler
£24.99 •PB • 9780708324899 • 234x156 mm • 384pp - 4 Delwedd Du a Gwyn

I gael rhagor o wybodaeth am Wasg Prifysgol Cymru neu i osod archeb, ewch i: www.uwp.co.uk

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori