Cyfrol Gwasg Prifysgol Cymru ar restr fer Gwobr Lyfrau bwysig

Wedi ei bostio ar 10 Mawrth 2010
WilkieCollinsMainImage

Mae’n bleser gan Wasg Prifysgol Cymru gyhoeddi fod y gyfrol, 'Wilkie Collins, Medicine and the Gothic' gan Laurence Talairach-Vielmas, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Lyfrau’r Gymdeithas Llenyddiaeth a Gwyddoniaeth Brydeinig (BSLS).

Mae’r gyfrol yn trafod sut y datblygodd diddordeb Wilkie Collins mewn materion meddygol yn ei ysgrifennu drwy archwilio ei ddiwygiadau i’r nofel Gothig tua diwedd y ddeunawfed ganrif o’i nofelau syfrdanol cyntaf i’w waith olaf yn y 1880au.

Drwy gydol ei yrfa, gwnaeth Collins newidiadau i brototeip y senario Gothig. Ail-weithiodd ac addasodd gymeriadau’r drwgweithredwyr aristocrataidd, y morwynion diniwed a chestyll canoloesol y straeon Gothig clasurol er mwyn cynhyrfu ei ddarllenwyr Fictorianaidd. Gyda dyfodiad niwrowyddoniaeth a datblygiadau mewn troseddeg yn gweithredu fel cefnlen arwyddocaol i’r rhan fwyaf o’i nofelau, tynnai Collins ar bryderon cyfoes ac yn gynyddol defnyddiai elfennau meddygol i lywio ei straeon.

Gan droi’r cestyll traddodiadol yn sefydliadau meddygol modern, nid bwganod oedd yn peri ofn i’w arwresau ond cyllell y gwyddonydd. Mae’r astudiaeth hon felly yn tanlinellu’r ffordd yr oedd diwygiadau Gothig Collins yn mynd i’r afael yn gynyddol â chwestiynau meddygol, gan ddefnyddio’r dirwedd feddygol i fanteisio ar ofnau’r darllenwyr. Mae hefyd yn dangos sut mae ffuglen Collins yn ail-weithio themâu Gothig ac yn eu cyflwyno drwy brism trafodaethau gwyddonol, meddygol a seicolegol cyfoes; o’r trafodaethau am ffisioleg feddyliol i’r rheini yn ymwneud ag etifeddeg a thrawsgludo.

Strwythur cronolegol sydd i’r gyfrol, yn cwmpasu detholiad o destunau ym mhob pennod, gan gydbwyso trafodaeth o weithiau mwyaf canonaidd Collins megis The Woman in White, The Moonstone ac Armadale â rhai o’i weithiau llai cyfarwydd.

Uwch-ddarlithydd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Toulouse-Le Mirail yn Ffrainc, Dr Laurence Talairach-Vielmas, yw awdur y llyfr. Dyma ei thrydedd gyfrol ac mae wedi awduro nifer o gyhoeddiadau yn canolbwyntio ar ffuglen cyffro a Wilkie Collins yn benodol.

Yn bennaf caiff Wilkie Collins ei astudio mewn perthynas â rhywedd a’r Gothig Benywaidd. Fodd bynnag mae’r astudiaeth hon yn archwilio’r berthynas rhwng y Gothig â Meddygaeth yng ngwaith Collins am y tro cyntaf, gan wneud cyfraniad pwysig i ymchwil yn y maes hwn yn ogystal â datblygu’r farchnad dyniaethau meddygol.

Dywedodd Helgard Krause, Pennaeth newydd Gwasg Prifysgol Cymru:

“Rydym ni wrth ein bodd fod un o’n cyhoeddiadau unwaith eto wedi’i gydnabod ar lefel ryngwladol ar restr fer y wobr glodfawr hon. Mae Laurence Talairach-Vielmas yn awdur hynod o dalentog ac mae’r astudiaeth hon o Wilkie Collins yn llawn haeddu’r ganmoliaeth.”

Cyhoeddir yr enillydd yng Nghynhadledd y BSLS yn Newcastle ym mis Ebrill 2010.

 /Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.cymru.ac.uk/press neu ebostiwch:neu ebostiwch: press@press.wales.ac.uk

Nodiadau i olygyddion

Lansiwyd Gwobr Lyfrau’r Gymdeithas Llenyddiaeth a Gwyddoniaeth Brydeinig yn 2007. Yr enillwyr blaenorol yw Ralph O’Connor am The Earth on Show: Fossils and the Poetics of Popular Science, 1802-1856 (Gwasg Prifysgol Chicago, 2007) a George Levine am Realism, Ethics and Secularism: Essays on Victorian Literature and Science (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2008).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan BSLS: www.bsls.ac.uk/

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau