Cyfrol Gwasg Prifysgol Cymru yn ennill clod rhyngwladol

Wedi ei bostio ar 25 Awst 2010
wkmedic

Cyfrol y Wasg PC, 'Wilkie Collins, Medicine and the Gothic' gan Laurence Talairach-Vielmas

Mae’n bleser gan Wasg Prifysgol Cymru gyhoeddi fod y gyfrol, 'Wilkie Collins, Medicine and the Gothic' gan Laurence Talairach-Vielmas, wedi ennill Dyfarniad ESSE (The European Society for the Study of English Books).

Fel enillydd dyfarniad ESSE, bydd Laurence yn derbyn gwobr o 1500 Euro fydd yn cael ei gyflwyno iddi mewn seremoni arbennig ar Ddydd Sadwrn, 28 Awst yn ninas Turin yn yr Eidal.

Mae Dr Laurence Talairach-Vielmas yn Uwch-ddarlithydd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Toulouse-Le Mirail yn Ffrainc, Dyma ei thrydedd gyfrol ac mae wedi awduro nifer o gyhoeddiadau yn canolbwyntio ar ffuglen cyffro a Wilkie Collins yn benodol.

Mae’r gyfrol yn trafod sut y datblygodd diddordeb Wilkie Collins mewn materion meddygol yn ei ysgrifennu drwy archwilio ei ddiwygiadau i’r nofel Gothig tua diwedd y ddeunawfed ganrif o’i nofelau syfrdanol cyntaf i’w waith olaf yn y 1880au.

Yn bennaf caiff Wilkie Collins ei astudio mewn perthynas â rhywedd a’r Gothig Benywaidd. Fodd bynnag mae’r astudiaeth hon yn archwilio’r berthynas rhwng y Gothig â Meddygaeth yng ngwaith Collins am y tro cyntaf, gan wneud cyfraniad pwysig i ymchwil yn y maes hwn yn ogystal â datblygu’r farchnad dyniaethau meddygol.
Dywedodd Helgard Krause, Pennaeth Gwasg Prifysgol Cymru:

“Rydym wrth ein boddau bod un o’n cyhoeddiadau unwaith eto wedi cael adnabyddiaeth ar lefel rhyngwladol yn ennill dyfarniad o bwys. Mae Laurence
Talairach-Vielmas yn awdur talentog iawn ac mae’r astudiaeth hynod ddiddorol hon o Wilkie Collins yn llwyr haeddiannol o dderbyn y fath gamnoliaeth.”

/Ends
 
I gael rhagor o wybodaeth am y gyfrol hon neu unrhyw gyhoeddiadau eraill Gwasg Prifysgol Cymru: http://www.uwp.co.uk/

I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru, ewch i: www.cymru.ac.uk
 
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau