Wedi ei bostio ar 1 Awst 2017
Cyhoeddwyd mai The Gothic and the Carnivalesque in American Culture (Gothic Literary Studies) gan Dr Timothy Jones yw cyd-enillydd Gwobr Goffa nodedig Allan Lloyd Smith – gwobr ryngwladol am feirniadaeth gothig.
Cyhoeddwyd y wobr yn ystod cynhadledd ddwyflynyddol y Gymdeithas Gothig Ryngwladol ym Mecsico. Y gyfrol fuddugol, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru, oedd un o’r teitlau ar y rhestr fer yn y categori monograff.
Mae’n un o’r teitlau niferus yng nghyfres GPC sydd wedi denu canmoliaeth, Gothic Literary Studies, a olygir gan yr Athro Andrew Smith, Prifysgol Sheffield a’r Athro Benjamin F. Fisher, Prifysgol Mississippi, ac mae’r llwyddiant hwn yn adeiladu ar lwyddiannau’r gyfres uchel ei pharch sydd eisoes wedi cynhyrchu dau enillydd blaenorol i’r wobr. Enillodd cyfrol yr Athro Isabela Van Elferen Gothic Music: The Sounds of the Uncanny y wobr yn 2013, a chyfrol Dr Joseph Crawford The Twilight of the Gothic? Vampire Fiction and the Rise of the Paranormal Romance? yn 2015.
Mae’r Gymdeithas Gothig Ryngwladol yn uno athrawon, ysgolheigion, myfyrwyr, artistiaid, llenorion a pherfformwyr o bedwar ban byd sydd â diddordeb mewn unrhyw agwedd ar ddiwylliant gothig. Hi yw’r brif gymdeithas drwy’r byd sy’n ymroi i astudio’r Gothig, gan hyrwyddo astudiaethau a lledaenu gwybodaeth ar ddiwylliant gothig o ganol y ddeunawfed ganrif hyd at heddiw. Sefydlwyd Gwobr Goffa Allan Lloyd Smith yn 2011 i goffáu Llywydd sefydlu’r Gymdeithas, a chaiff ei hystyried yn wobr nodedig a’i chydnabod yn rhyngwladol.
Wrth sôn am y gyfres a chyflawniad pawb fu’n rhan o’r gwaith, dywedodd Sarah Lewis, Pennaeth Comisiynu GPC:
“Rwyf i wrth fy modd gyda llwyddiant Tim; roedd yn bleser gweithio gyda fe a gweld y llyfr yn ymddangos. Rwyf i hefyd yn ddiolchgar iawn i’r Athro Andrew Smith a’r Ben Fisher, golygyddion y gyfres Gothic Literary Studies, am helpu i wneud y gyfres yn gymaint o lwyddiant i GPC.”
Ychwanegodd Andrew Smith, un o olygyddion y gyfres:
“Rwyf i’n hapus iawn gyda llwyddiant llyfr Timothy Jones. Mae’n gyfraniad hanfodol i’r ffordd rydym ni’n meddwl am Gothig Americanaidd ac yn enillydd teilwng iawn.”
Mae cyfres Gothic Literary Studies yn cyhoeddi ysgolheictod arloesol ar lenyddiaeth a ffilm Gothig, a hyrwyddo agweddau heriol ac arloesol at y Gothig sy’n cwestiynu traddodiad neu gredoau beirniadol canfyddedig mewn genre sy’n chwarae rôl bwysig yn deall hanesion llenyddol, deallusol a diwylliannol. Mae cyfrolau yn y gyfres yn trafod sut mae materion fel rhywedd, crefydd, cenedl a rhywioldeb wedi ffurfioein barn am y traddodiad Gothig, ac yn dilyn y datblygiadau diweddaraf mewn damcaniaeth feirniadol.
I gael rhagor o wybodaeth am y gyfres, ewch i wefan GPC – www.uwp.co.uk