Wedi ei bostio ar 16 Gorffennaf 2012
Mae’r gyfrol John Morris-Jones, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru, wedi ennill gwobr categori Ffeithiol Creadigol Cymraeg yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2012.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud mewn seremoni a gynhaliwyd nos Iau diwethaf gan Llenyddiaeth Cymru yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Cyflwynwyd y sieciau i’r enillwyr gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Chadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, yr Athro Dai Smith.
Awdur John Morris-Jones yw Allan James, ac mae’n fywgraffiad manwl sy’n cyflwyno darlun o fywyd a gwaith yr ysgolhaig, beirniad llenyddol a bardd oedd mor ddylanwadol yn ei ddydd.
Cyflwynir Llyfr y Flwyddyn 2012 i’r gweithiau Cymraeg a Saesneg gorau a gyhoeddwyd yn 2011 ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol mewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Creadigol. Gweinyddir y wobr gan Llenyddiaeth Cymru gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Hon yw’r flwyddyn gyntaf i’r wobr gynnwys categorïau.
Enillydd prif wobr Gymraeg 2012 oedd Jon Gower am ei nofel Y Storïwr, ac enillydd y brif wobr Saesneg oedd Patrick McGuinness am nofel a leolwyd yn ninas Bucharest ym 1989, The Last Hundred Days (Seren).
Derbyniodd enillwyr y categorïau £2,000 yr un a dyfarnwyd £6,000 arall i’r prif enillydd yn Gymraeg a Saesneg.
/Diwedd
Ceir rhagor o wybodaeth am wobr eleni ar y wefan - http://walesbookoftheyear.co.uk