Gwasg PC ar y Brig yng Ngwobrau'r Diwydiant Cyhoeddi

Wedi ei bostio ar 21 Mawrth 2012
helgardaward

Pennaeth Gwasg Prifysgol Cymru, Helgard Krause, yn derbyn y wobr Dylunio a Chynhyrchu

Mae Gwasg Prifysgol Cymru wedi ennill gwobr Dylunio a Chynhyrchu am ei chyfrol enwog Cerddi Dafydd ap Gwilym gan yr Athro Dafydd Johnston, yn seremoni Gwobrau’r Diwydiant Cyhoeddi eleni.

Cyflwynir gwobrau’r diwydiant cyhoeddi bob dwy flynedd, ac eleni roedd y seremoni’n cyd-fynd â dathliadau hanner can mlwyddiant Cyngor Llyfrau Cymru.

Yn ystod y seremoni, cyflwynwyd 18 o wobrau amrywiol, yn cynnwys categorïau gwerthwyr gorau a llyfrau a fenthyciwyd amlaf o lyfrgell, yn ogystal â chydnabod y goreuon yn y maes dylunio a chynhyrchu.

Eleni, am y tro cyntaf, fe ychwanegwyd categori newydd ar gyfer dylunio a chynllunio ym maes llyfrau Saesneg a Chymraeg.

Comisiynwyd y gwobrau - sydd i’w gweld yn y llun uwchben - yn arbennig gan Carwyn Evans, yr artist o Gaerdydd, a enillodd y Wobr Gelf Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2009.

/GORFFEN

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori