Tri o deitlau Gwasg PC yn cael eu henwebu am Wobr goffa Allan Lloyd

Wedi ei bostio ar 26 Chwefror 2013
Gothic

Sefydlwyd y Wobr gan y Gymdeithas Gothig Rhyngwladol (International Gothic Association) yn 2011 er cof am Dr Allan Lloyd Smith (1945-2010), Llywydd a sefydlydd yr IGA. Mae Gwobr goffa Allan Lloyd Smith yn cael ei dyfarnu am gyhoeddiad ysgolheigaidd yr ystyrir ei fod yn flaengar yn y maes astudiaethau Gothig.

Yn y cylch hwn, y mae llyfrau a gyhoeddwyd dros y 24 mis diwethaf yn gymwys i gael eu henwebu ynddo, mae tri o lyfrau a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru wedi eu henwebu am y Wobr.

Mae Gothic Music: The Sounds of the Uncanny gan Isabella Van Elferen (2012), Queer Others in Victorian Gothic Fiction: Transgressing Monstrosity gan Ardel Haefele-Thomas (2012), a Stephen King's Gothic gan John Sears (2011) i gyd yn ymddagnos ar y rhestr hir sy’n cynnwys wyth cyhoeddiad.

Yn siarad am yr enwebiadau, dywedodd Helgard Krause, Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru:

“Mae Gwasg Prifysgol Cymru mor falch bod y tri chyhoeddiad hyn wedi eu henwebu am wobr Allan Lloyd Smith eleni.  Mae’n gymaint o fraint i’r wasg a’r awduron i gael eu hystyried am wobr mor fawreddog, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed cyhoeddi’r enillydd yn ystod cynhadledd y Gymdeithas Gothig Ryngwladol yn hwyrach yn y flwyddyn.”

Bydd y rhestr fer yn cael ei chyhoeddi yn hwyr ym mis Gorffennaf a gwneir y dyfarniad yng nghynhadledd yr IGA ym Mhrifysgol Surrey ym mis Awst.

/Gorffen

Gwobr Goffa Allan Lloyd Smith – Rhestr Hir Cyflawn

Isabella Van Elferen, Gothic Music: The Sounds of the Uncanny (Gwasg Prifysgol Cymru, 2012)
Kamilla Elliott, Portraiture and British Gothic Fiction: The Rise of Picture Identification 1764-1835 (Gwasg Prifysgol Johns Hopkins, 2012)
Ken Gelder, New Vampire Cinema (Palgrave, 2012)
Ardel Haefele-Thomas, Queer Others in Victorian Gothic Fiction: Transgressing Monstrosity (Gwasg Prifysgol Cymru, 2012)
David Punter (gol.), A New Companion to the Gothic (Wiley-Blackwell, 2012)
John Sears, Stephen King's Gothic  (Gwasg Prifysgol Cymru, 2011)
Andrew Smith a William Hughes (gol.), The Victorian Gothic: An Edinburgh Companion (Caeredin: Gwasg Prifysgol Caeredin, 2012)
Maisha Wester, African American Gothic: Screams from Shadowed Places (Palgrave Macmillan, 2012)

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau