The Fiction of Emyr Humphreys

Wedi ei bostio ar 16 Chwefror 2011
emyrhumphreys

'The Fiction of Emyr Humphreys' gan yr Athro Linden Peach

Ag yntau bellach yn agosáu at 90 mlwydd oed, disgrifiwyd Emyr Humphreys un tro gan R.S. Thomas fel ‘prif ddehonglydd y bywyd Cymreig yn Saesneg’. Ers dros hanner canrif, mae Emyr Humphreys wedi gwneud cyfraniad eithriadol i lenyddiaeth a diwylliant Cymru fel nofelydd, awdur straeon byr, bardd, dramodydd a chynhyrchydd teledu. Priodol felly efallai yw bod llyfr bellach wedi’i ysgrifennu sy’n ystyried ei fywyd a’i waith.

The Fiction of Emyr Humphreys: Contemporary Critical Perspectives gan yr Athro Linden Peach, a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru, yw’r astudiaeth ddofn gyntaf o weithiau ffuglen Humphreys.

Yn y testun, mae’n archwilio gwaith Humphreys drwy syniadau cyfoes o astudiaethau beirniadol, diwylliannol a rhywedd, gan bwysleisio ei berthnasedd i ddarllenwyr yr unfed ganrif ar hugain. Mae ei fyfyrdodau’n cynnwys trafodaethau ar faterion megis rhyfel, gwrywdod dadleuol, hanes menywod Cymru, dieithrwch ac ’arallrwydd’, y berthynas rhwng tad a merch, a hunaniaeth mewn amgylcheddau sy’n ieithyddol gymhleth.

Mae’r Athro Peach yn disgrifio Humphreys fel awdur sy’n ysgrifennu ffuglen sy’n ‘protestio’ - ymadrodd a ddefnyddir yn aml gan yr awdur ei hun. Ceir nifer o themâu radical yn ei waith gan gynnwys heddychiaeth a chenedlaetholdeb Cymreig. Ac nid oedd Humphreys yn ofni eu cofleidio yn ei fywyd yn ystod cyfnodau anodd. Mae ei heddychiaeth yn ddyledus i raddau helaeth i'r ffaith nad oedd ond yn adnabod ei dad fel claf o'r Rhyfel Byd Cyntaf a hefyd dylanwad adain flaengar Anghydffurfiaeth. Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, datganodd ei fod yn wrthwynebydd cydwybodol - mae Outside the House of Baal yn cynnwys un o’r adroddiadau mwyaf lliwgar ac emosiynol o’r hyn yr oedd yn rhaid i heddychwyr ei ddioddef gartref.

Gan amlygu gwerth gwaith Humphreys, mae’r Athro Peach yn tynnu sylw at y ffaith fod y mwyafrif o lenorion pwysicaf Cymru yn hanu o’r de, ond mae Emyr Humphreys, a anwyd ym Mhrestatyn (1919), wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd ar Ynys Môn lle mae’n byw o hyd. O ganlyniad, mae ei nofelau yn cynnig persbectif amgen ar hanes Cymreig modern i’r hyn a geir gan lenorion a haneswyr de Cymru. Yn wir, Emyr Humphreys yw un o'r prif nofelwyr Eingl-Gymreig; enillodd un o’i 21 o nofelau wobr Somerset Maugham ac enillodd un arall, The Toy Epic, sydd bellach yn destun gosod Safon Uwch, Wobr Hawthornden.

Yn ifanc iawn, cafodd Humphreys dröedigaeth i genedlaetholdeb Cymreig dan ddylanwad un o’i athrawon yn Ysgol Sirol y Rhyl, a llosgi’r Ysgol Fomio ym Mhenyberth. Cafodd araith Gymraeg Saunders Lewis, un o’r llosgwyr a llenor blaenllaw, yn y llys yng Nghaernarfon effaith barhaol arno, gan danio ei ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Yn yr hyn oedd ar y pryd yn Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, astudiodd hanes a dysgodd siarad Cymraeg. Er bod y rhan fwyaf o’i waith gorau yn yr iaith Saesneg - ac ni lwyddodd erioed i ddiosg ei euogrwydd ôl-drefedigaethol am hynny - mae ei gynnwys, a'i gwmpas, gan gynnwys cyfeiriadau at chwedloniaeth Cymru a llenyddiaeth Gymraeg, yn dod â'r Gymru Gymraeg yn fyw.

Dywed Dr Kirsti Bohata, cyfarwyddwr cynorthwyol y Ganolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg yng Nghymru ym Mhrifysgol Abertawe am The Fiction of Emyr Humphreys:

“Mae Peach yn mynegi cyffro ‘rhyddiaith wrthwynebol’ Humphreys’ â brwdfrydedd heintus, ac ar yr un pryd mae’n cynnig dosbarth meistr ar gyfer darllen ei nofelau gyda chyfeiriadau at ddamcaniaethau llenyddol cyfoes”

Ychwanegodd yr Athro Peach:

“Pan ddechreuodd Humphreys ysgrifennu, roedd Cymru wrth gwrs yn wlad wahanol iawn i’r hyn yw hi heddiw. Doedd ganddi ddim hyd yn oed ei phrif ddinas ei hun heb sôn am unrhyw fath o hunanlywodraeth. Doedd gan yr iaith Gymraeg ddim yr un statws ag sydd ganddi heddiw. Megis dechrau oedd y brwydro yn y maes hwnnw. Mae ffuglen Humphreys yn ymdrin â llanw a thrai dyheadau cenedlaetholgar. Mae’n gwneud i ni sylweddol er bod llawer ar ôl i’w wneud, na ddylem ni gymryd yr hyn sydd wedi’i gyflawni dros yr hanner canrif ddiwethaf yn ganiataol.”

Ag yntau bellach yn Ddeon Cyfadran y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Cymru, yn 2009 cafodd yr Athro Peach ei wneud yn aelod o’r Academi Gymreig, a’r flwyddyn flaenorol fe’i hetholwyd yn Gymrawd yr English Association. Dyma ei ail brif waith ar ffuglen Cymru. Disgrifiwyd ei gyfrol flaenorol Contemporary Irish and Welsh Women’s Fiction gan Lucy Thomas yn Planet fel ‘an insightful introduction to a dynamic area of study’ ac fel ‘a valuable contribution to Welsh-Irish and gender studies’ gan Laura Wainwright, yn Irish Studies Review. Mae ganddo ddiddordeb ers tro yng ngwaith Humphreys, byth ers iddo ei wahodd fel awdur iau i siarad â chymdeithas Saesneg y myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ar y pryd. Ei gyfrol yw’r gyntaf i wneud defnydd o archif helaeth Emyr Humphreys yn y Llyfrgell Genedlaethol, gan ennill dealltwriaeth o ddrafftiau niferus Humphreys, a'i draethodau heb eu cyhoeddi, ei nodiadau a phytiau. Mae'r cyfuniad o syniadau beirniadol cyfoes ac ysgolheictod archifol yn cymeradwyo’r gyfrol hon i fyfyrwyr a hefyd i athrawon.

/Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

9780708322161 The Fiction of Emyr Humphreys: Contemporary Critical Perspectives £18.99

I gael rhagor o wybodaeth am Wasg Prifysgol Cymru, ewch i: www.gpc.co.uk

I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysyllter â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk
Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori