Wedi ei bostio ar 2 Mawrth 2017
Mae arolwg cryno ac awdurdodol o lenyddiaeth Cymraeg a Saesneg Cymru, o’r cyfnod cynharaf hyd heddiw, wedi cael ei ail gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru.
Cyhoeddwyd The Literature of Wales, fersiwn ddiwygiedig o gyfrol Yr Athro Dafydd Johnston yng nghyfres Llyfrau Poced Gwasg Prifysgol Cymru ym mis Chwefror, ac mae’n cynnwys pennod newydd ar ysgrifennu cyfoes.
Mae’r canllaw darluniadol hwn, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1994, yn cynnwys dyfyniadau o destunau gwreiddiol gyda chyfieithiadau Saesneg ac mae’n ganllaw cryno sy’n llawn gwybodaeth am lenyddiaeth Cymru o farddoniaeth gynharaf Taliesin ac Aneirin yn y chweched ganrif - llenyddiaeth frodorol hynaf Ewrop.
Mae’r llyfr yn olrhain ffyniant llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a datblygiadau cyfnod y Dadeni yng Nghymru hyd at ddiwygiad llenyddol Cymru ar ddiwedd y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif, a oedd hefyd yn gyfnod o flodeuo i ysgrifennu ‘Eingl-gymreig’ - llenyddiaeth Saesneg a ysgrifennwyd o gefndir Cymreig.
Yn y gyfrol ddiwygiedig hon, ceir pennod newydd gan yr Athro Johnston sy’n canolbwyntio ar ysgrifennu Cymraeg cyfoes ers datganoli.
Yr Athro Dafydd Johnston yw Cyfarwyddwr Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth. Cyn hynny bu’n Athro yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe a’i brif faes ymchwil yw barddoniaeth yr Oesoedd Canol, er iddo gyhoeddi’n helaeth ar lenyddiaeth Gymraeg o bob cyfnod, gan gynnwys rhai o awduron Saesneg Cymru.
Wrth siarad am y cyhoeddiad yn ei gyfanrwydd, disgrifiodd yr Athro Johnston dasg mor anodd oedd crynhoi holl hanes llenyddiaeth Cymru:
"Mae cymaint i’w ddweud am holl hanes llenyddiaeth Cymru, a oedd yn Gymraeg yn bennaf hyd at yr 20fed ganrif. Roedd cyflwyno’r ffeithiau a rhoi blas ar lenyddiaeth Cymru a’i huchafbwyntiau i’r darllenwyr yn dipyn o her, yn arbennig y cyfnod mwyaf diweddar, lle mae llawer i’w ddweud am lenyddiaeth yn y ddwy iaith.”
Fel y noda’r Athro Johnston yn y bennod newydd, un o nodweddion y cyfnod diweddaraf yw awduron sy’n gweithio yn y ddwy iaith, ac mae’n archwilio gwaith gan awduron Saesneg o Gymru ochr yn ochr ag awduron Cymraeg eu hiaith.
“I ryw raddau mae’r ddwy lenyddiaeth wedi dod yn agosach at ei gilydd dros y blynyddoedd diweddar”. Esbonia’r Athro Johnston. “Mae mwy o gyfieithiadau o’r Gymraeg a mwy o ddylanwad gan yr ochr Gymraeg ar ysgrifenwyr Saesneg. Mae’n werth edrych ar y darlun cyfan ar hyn o bryd ar draws y ddwy iaith, ac yna myfyrio hefyd ar lenyddiaeth Cymru dros y canrifoedd a fu.”
Mae’r gyfrol awdurdodol hon yn crynhoi pymtheg cant o flynyddoedd o gyflawniad llenyddol mewn cyhoeddiad cryno ond hynod gynhwysfawr a hawdd iawn ei ddarllen. Ar ôl cyflwyno cenhedlaeth o fyfyrwyr a darllenwyr cyffredinol yng Nghymru i hanes llenyddol cyfoethog Cymru yn ei dwy iaith yn y gyfrol gyntaf, mae’r gyfrol ddiwygiedig hon yn cynnig asesiad beirniadol cytbwys sy’n cysylltu’r llenyddiaeth â’i chefndir hanesyddol, ac sy’n diweddaru’r gwaith.
Mae The Literature of Wales ar gael i’w brynu yn awr ar wefan Gwasg Prifysgol Cymru - http://www.uwp.co.uk/editions/9781786830210
The Literature of Wales gan Dafydd Johnston (Gwasg Prifysgol Cymru, Chwefror 2017)
£12.99 • Clawr Meddal • 9781786830210 • 129 x 198 mm • 208tud.