The Welsh Language: A History

Wedi ei bostio ar 10 Mawrth 2014
Welsh Language

Disgrifiodd J. R. R. Tolkien y Gymraeg fel ‘iaith hyn dynion Prydain’, er bod bodolaeth y Gymraeg yn gallu peri syndod i nifer sy’n tybio mai Saesneg yw iaith sylfaenol Prydain.

Gydag asesiad llawn o oblygiadau’r ystadegau ieithyddol a gynhyrchwyd gan Gyfrifiad 2011, mae’r argraffiad newydd hwn o The Welsh Language: A History gan Janet Davies, a gyhoeddir y mis hwn gan Wasg Prifysgol Cymru, yn cynnig arolwg hanesyddol eang o ddiwylliant y Gymraeg, o farddoniaeth arwrol y chweched ganrif hyd at ddiwylliant teledu a phop dechrau’r unfed ganrif ar hugain.

Efallai y byddai bodolaeth y Gymraeg yn synnu ymwelwyr o’r tu hwnt i Gymru ac mae’r gyfrol hon yn archwilio sut mae iaith sydd wedi bod yn gymydog agos i’r Saesneg ers o leiaf bymtheg cant o flynyddoedd yn mwynhau’r fath fywiogrwydd, o ystyried bod y Saesneg wedi difa ieithoedd filoedd o filltiroedd i ffwrdd o lannau Lloegr.

Caiff statws cyhoeddus yr iaith ei ystyried yn y gyfrol a chaiff swyddogaeth y Gymraeg ei chymharu â swyddogaethau nifer o ieithoedd anwladwriaethol eraill Ewrop. Ceir mapiau a chynlluniau’n dangos lledaeniad demograffig a daearyddol y Gymraeg dros yr oesoedd, a siartiau sy’n edrych ar y cysylltiadau rhwng geiriau Cymraeg a geiriau ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill, ynghyd â lluniau o gyhoeddiadau a ffigurau allweddol yn hanes yr iaith.

Ar y diwedd ceir canllawiau cryno ar ynganu, tafodieithoedd a gramadeg y Gymraeg.

Ganwyd Janet Davies yng Nghrughywel a’i magu ym Mrynmawr. Cafodd radd BA mewn Hanes yn Abertawe ac MA ar Hanes Gwleidyddol Morgannwg yn Aberystwyth. 

The Welsh Language: A History (Mawrth 2014, Gwasg Prifysgol Cymru)
gan Janet Davies
£9.99 • PB • 9781783160198 129mm x 198mm192 tudalen

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau