Caethweision Cymru

Wedi ei bostio ar 23 Mehefin 2010
slavewales

Caethweision Cymru

Teitl newydd - Slave Wales: The Welsh and Atlantic Slavery, 1660-1850 gan Chris Evans

Yn draddodiadol yng Nghymru cysylltir y geiriau darostyngiad a gorthrwm â’r driniaeth a ddioddefodd brodorion Cymru gan y Rhufeiniaid, ac wedi hynny y Normaniaid a’r Eingl Sacsoniaid. Eto i gyd chwaraeodd Cymru, fel llawer i ardal arall yn Ewrop, ran yng nghaethwasiaeth brodorion Affrica, a chyfrannodd ei diwydiannau i’r fasnach mewn caethweision - arian gwaed a helpodd i newid tirwedd Cymru pan gafodd ei fuddsoddi mewn diwydiannau newydd a’i wario ar blastai gwledig.

Cyfrol newydd gan Chris Evans a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru yw Slave Wales: The Welsh and Atlantic Slavery (i’w chyhoeddi ym mis Medi), sy’n archwilio dyfroedd dieithr gorffennol tywyll y Cymry. Caiff y darllenydd ei gludo drwy’r blynyddoedd rhwng 1650 a 1850 ar daith o Ynys Môn i Trinidad, gan ddilyn cyfraniad sinistr Cymru at gaethwasiaeth hyd at ei rhan allweddol yn diddymu’r arfer.

Drwy brofiadau masnachwyr caethweision, megis y môr-leidr enwog hwnnw Henry Morgan, mae’r gyfrol yn archwilio nifer o elfennau o’r system gaethwasiaeth. Gan dynnu ar ymchwil unigryw, mae’r awdur yn datgelu nifer o ddigwyddiadau megis rhan Cymru yn y defnydd o gaethweision i fwyngloddio copr ar ynys Cuba yn y 19eg ganrif. Ymhellach, mae’r testun yn taflu golau newydd ac annifyr ar nodweddion cyfarwydd o hanes Cymru - fel y diwydiant gwlân - sydd â chysylltiadau â chaethwasiaeth. Efallai mai datgeliad gwaethaf y gyfrol yw bod ymglymiad Cymry â’r fasnach caethweision dros fôr yr Iwerydd wedi parhau ymhell y tu hwnt i 1807 pan ddiddymwyd caethwasiaeth ym Mhrydain a diwedd ymerodraeth Prydain yn y Caribî ym 1834.

Mae Slave Wales yn addas i ymchwilwyr academaidd, myfyrwyr a’r darllenydd cyffredin. 

/Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

Slave Wales: The Welsh and Atlantic Slavery, 1660-1850 gan Chris Evans -
£24.99 | HB| 9780708323038 | 160 tudalen | 216x138 mm – i’w gyhoeddi: Medi 2010 

I gael rhagor o wybodaeth am Wasg Prifysgol Cymru ewch i: www.uwp.co.uk
I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk
02920 376991
Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau