Wedi ei bostio ar 26 Medi 2017
Cyhoeddir hunangofiant gwleidyddol Rhodri Morgan Rhodri: A Political Life in Wales and Westminster y mis hwn gan Wasg Prifysgol Cymru.
A Chymru’n teimlo’r golled ar ôl cyn Brif Weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru a fu farw ym mis Mai eleni, mae’r ffigur cyhoeddus hoffus yn gadael ei hunangofiant i ni, yn gofnod difyr ac agored o’i fywyd gwleidyddol oedd ar adegau’n gynhyrfus, yn aml yn ddadleuol ond byth yn ddiflas.
Dyma gyfrol ffraeth a sgyrsiol, yn cynnig golwg ar y ffordd roedd Llywodraeth Cymru’n gweithio a’r heriau o ymdrin â threfniadau llywodraeth glymblaid. Gyda’i synnwyr digrifwch yn amlwg ar y dudalen, mae Morgan yn osgoi’r diflastod sy’n aml yn gysylltiedig â chofiannau gwleidyddol gan gofnodi ei frwydrau gwleidyddol yn agored.
Bydd y gyfrol hon yn apelio at y darllenydd achlysurol a’r rheini sy’n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, ac ynddi cawn ddarllen myfyrdodau olaf Rhodri Morgan ar fywyd gwleidyddol yng Nghymru, San Steffan a thu hwnt, gyda chipolwg unigryw ar ddeng mlynedd gyntaf hanes Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Am ragor o wybodaeth am yr hunangofiant, ac i brynu copi, ewch i wefan Gwasg Prifysgol Cymru - http://www.uwp.co.uk/cy/book/rhodri-hardback/
Rhodri Morgan: A Political Life in Wales and Westminster by Rhodri Morgan (Gwasg Prifysgol Cymru, Medi 2017)
£24.99 • HB • 9781786831477 • 234x156mm • 464 tudalen