Wedi ei bostio ar 28 Tachwedd 2012
Cyhoeddir Radio in Small Nations: Production, Programmes, and Audiences y mis hwn gan Wasg Prifysgol Cymru, a hwn yw’r teitl cyntaf mewn cyfres newydd o gyfrolau’n trafod dimensiynau gwahanol y cyfryngau a diwylliant mewn cenhedloedd bach.
Boed ar lefel leol, genedlaethol neu ryngwladol, mae radio wedi chwarae ac yn parhau i chwarae rhan allweddol wrth feithrin neu wadu - hyd yn oed ddinistrio - ymdeimlad pobl o 'berthyn’ i gymuned benodol, boed wedi’i diffinio yn nhermau lle, ethnigrwydd, iaith neu batrymau defnyddio. Yn nodweddiadol, mae'r radio wedi cael ei ddefnyddio at ddibenion propaganda ac fel modd o ffurfio hunaniaeth genedlaethol gartref ac ymhellach i ffwrdd yn achos datblygiadau trefedigaethol.
Golygwyd y gyfrol gan Richard J. Hand a Mary Traynor, fel rhan o gyfres newydd Global Media and Small Nations, ac mae’r awduron yn cynnig trafodaeth ysgogol ar swyddogaeth radio mewn amrywiaeth o gyd-destunau cenedl yn fyd-eang.
Ar hyn o bryd does dim llyfrau yn ystyried ehangder swyddogaeth radio mewn cenhedloedd bach. Gan dynnu ar enghreifftiau o bedwar model radio, mae’r gyfrol hon yn cynnig gorolwg hanesyddol a chyfoes o radio mewn nifer o genhedloedd bach.
Mae Richard Hand yn Athro Drama Theatr a Chyfryngau ym Mhrifysgol Morgannwg a Mary Traynor yw’r Pennaeth Dysgu ac Addysgu yn Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd.
/Diwedd
Radio in Small Nations: Production, Programmes, and Audiences (Tachwedd 2012) Golygwyd gan: Richard J. Hand a Mary Traynor
Cyfres: Global Media and Small Nations
£95 | HB | 9780708325438 | 216x138 mm | 224pp - 2 Maps