Y Wasg yn lansio dwy gyfrol newydd i dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Wedi ei bostio ar 7 Mawrth 2011
1writersinwales

Our Mothers’ Land: Chapters in Welsh Women’s History 1830-1939, gan Professor Angela John

O 6.00 pm ddydd Mawrth 8 Mawrth yng Nghanolfan Gynadledda Morgannwg, bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn lansio dau lyfr newydd ar etifeddiaeth ffigurau benywaidd mwyaf nodedig Cymru drwy hanes. Cynhelir y lansio i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Trefnir y ddau lansiad hefyd i gyd-fynd â thraddodi’r drydedd yng nghyfres darlithoedd blynyddol yr Athro Angel John, a gynhelir er cof am Dr Ursula Masson (1945-2008). Teitl darlith eleni yw ‘Rhonddaworld: Lady Rhondda’s Life Story’.

Y gyfrol gyntaf i’w lansio fydd yr argraffiad newydd o Our Mothers’ Land: Chapters in Welsh Women’s History 1830-1939, a olygwyd gan yr Athro John - cyfrol arwyddocaol iawn yn nhermau datblygu hanes menywod Cymru.

Cyhoeddwyd Our Mothers’ Land yn wreiddiol ym 1991, a hon oedd y gyfrol gyntaf o’i bath, wedi’i hysgrifennu pan oedd astudio hanes menywod Cymru megis dechrau. Mae’r penodau’n amrywio’n eang dros amser (1830-1939) a lle, o archwilio cosbau cymdeithasol menywod y dosbarth gwaith a pheryglon bod yn wraig i löwr, i’r bywydau gwahanol iawn yr oedd gwragedd y meistri haearn yn eu profi. Mae hefyd yn mynd i’r afael â delweddau delfrydol o fenywod parchus Cymreig mewn cylchgronau a gwirionedd trasig y rheini a gyflawnodd hunanladdiad, fel gweithredoedd tresmasol rebeliaid y bleidlais.

Hefyd fe lansir Kate Roberts: Writers of Wales, teitl newydd gan Katie Gramich. Bydd y gyfrol newydd yn edrych ar fywyd a gwaith Kate Roberts, y llenor benywaidd pwysicaf erioed i ddod o Gymru. Mae’n cynnig golwg gynhwysfawr ar ei bywyd, o’i magwraeth mewn tlodi a chaledi yn ardal y chwareli yn Eryri i’w marwolaeth yn agos i gan mlynedd yn ddiweddarach yn Ninbych.

Yn ystod ei hoes, byddai Kate Roberts yn mynychu Prifysgol, ar adeg pan oedd hyn yn beth prin iawn ymysg menywod; gweithio fel athrawes angerddol oedd yn ysbrydoli yng nghymoedd y de; rhedeg gwasg gyhoeddi bwysig a chyhoeddi’r prif bapur newydd Cymraeg, Y Faner; helpu i sefydlu Plaid Cymru, y Blaid Genedlaethol Gymreig; ymgyrchu’n ddiflino dros yr iaith Gymraeg; herio stereoteipio’r rhywiau a chyfyngiadau Cymru batriarchaidd draddodiadol, a chynhyrchu corff o waith llenyddol yn yr iaith Gymraeg a fyddai’n ei gosod nesaf at Saunders Lewis fel llenor gorau’r Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddyddiad sydd wedi’i nodi ers dechrau’r ugeinfed ganrif, ar adeg o ehangu a chythrwfl mawr yn y byd diwydiannol a welodd twf anferth mewn poblogaeth a chynnydd mewn ideolegau radical. Tua throad y ganrif, roedd anghydfod mawr a thrafodaethau beirniadol yn digwydd ymysg menywod. Roedd gorthrwm menywod ac anghyfiawnder yn sbarduno menywod i fod yn fwy llafar a gweithredol wrth ymgyrchu am newid. Yna ym 1908, gorymdeithiodd 15,000 o fenywod drwy ddinas Efrog Newydd yn mynnu oriau byrrach, gwell tâl a hawliau pleidleisio, gan nodi Diwrnod Cenedlaethol cyntaf y Menywod - diwrnod a ddethlir bellach drwy’r byd.

Mae’r Angela John yn gweithio yn Adran Hanes Prifysgol Aberystwyth tra bo Dr Katie Gramich yn ddarllenydd Saesneg yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd.

/Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

I gael rhagor o wybodaeth am Wasg Prifysgol Cymru ewch i: www.gpc.co.uk

I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

Dolenni Tebyg