Open Library of Humanities a Gwasg Prifysgol Cymru yn partneru i drosi cylchgrawn i fynediad agored llawn

Wedi ei bostio ar 7 Medi 2016
IJWWiE3fcover

Rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod yr Open Library of Humanities (OLH) wedi ymrwymo i bartneriaeth gyda GPC i drawsnewid yr International Journal of Welsh Writing in English i mewn i gylchgrawn mynediad agored llawn aur.  Galwyd y cylchgrawn hwn, gan gymheiriaid annibynnol a’i hadolygodd, yn “adnodd gwbl hanfodol ar gyfer unrhyw ysgolhaig, myfyriwr neu ddarllenydd cyffredin sydd â diddordeb mewn Llên Saesneg Cymru.” Derbyniodd pleidlais ddiweddar bwrdd y llyfrgell y cylchgrawn hwn, ynghyd â phump arall, gydag 89.19% o’r bleidlais o blaid.

Y datblygiad hwn yw’r tro cyntaf i’r OLH ffurfio partneriaeth gyda gwasg prifysgol i gyflawni trosiad i fynediad agored.  Bydd y cylchgrawn yn parhau i gael ei gyhoeddi gan GPC gan ddefnyddio’u safonau golygyddol a chynhyrchu, ond bydd yn cael ei osod ar lwyfan cyflwyno a chyflwyniad yr OLH. Ni fydd unrhyw gostau sy'n wynebu’r awdur sy’n cyhoeddi yn y cylchgrawn, a fydd yn lleoliad mynediad agored aur.

Dywedodd yr Athro Martin Paul Eve, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol yr OLH, am y bartneriaeth: “Rwy'n falch iawn bod yr Open Library of Humanities yn helpu i gyflawni mynediad agored drwy amrywiaeth o lwybrau. Rydym yn hynod o gefnogol o weisg prifysgol sy'n cael eu gyrru gan genhadaeth, ddim er elw, ac yn falch iawn fod ein llyfrgelloedd yn pleidleisio i gefnogi partneriaethau o'r fath.”

Dywedodd Helgard Krause, Cyfarwyddwr GPC: “Mae Gwasg Prifysgol Cymru’n falch iawn i fod yn bartner gyda’r Open Library of Humanities i symud The International Journal of Welsh Writing in English i fodel Mynediad Agored ar y llwyfan OLH sefydledig a dibynadwy; mae’r mynediad ehangach a hwylusir gan Fynediad Agored i’w groesawu’n arbennig yn y maes allweddol hwn o waith ymchwil ac ysgolheictod yn ymwneud â Chymru.”

Ychwanegodd Dr Caroline Edwards, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol yr OLH: “Mae’r International Journal of Welsh Writing in English yn gyhoeddiad arwyddocaol a gafodd ei ganmol yn unfrydol gan ein hadolygwyr cymheiriaid trwyadl a’r broses dderbyn olygyddol.  Mae’r ffaith ein bod yn gallu cefnogi cyhoeddi gwasg prifysgol yn yr oes ddigidol yn ddatblygiad arwyddocaol ac yn un yr ydym yn gobeithio y byddwn yn gallu ei ymestyn ymhellach yn y blynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Dr Matthew Jarvis, golygydd yr International Journal of Welsh Writing in English: “Mae'r cyfle i roi’r International Journal of Welsh Writing in English ar y llwyfan OLH yn foment arbennig o bwysig ym mywyd y Cylchgrawn.  Mae dod yn gyhoeddiad mynediad agored aur yn cynnig cyfle cyffrous i gynyddu cynulleidfa’r Cylchgrawn a chyflwyno mwy o ddarllenwyr i astudiaeth llên Saesneg Cymru.”

Dylai llyfrgelloedd y tu allan i'r Unol Daleithiau, y DU, yr UE neu Ganada sydd â diddordeb mewn ymuno â'r model OLH Library Partnership Subsidy gysylltu â’r Athro Martin Paul Eve: martin.eveopenlibhums.org
Gall llyfrgelloedd yn y DU ymuno drwy Jisc Collections yn http://www.jisc-collections.ac.uk/Catalogue/Overview/Index/2120
Gall llyfrgelloedd yn yr Unol Dalieithau ymuno drwy LYRASIS yn https://lyrasis.openlibhums.org
Gall llyfrgelloedd Ewropeaidd ymuno drwy http://lps.openlibhums.org

/Y DIWEDD

 Ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau, cysylltwch â'r Athro Martin Paul Eve: martin.evebbk.ac.uk

Nodiadau i Olygyddion

Sefydliad elusennol yw’r Open Library of Humanities (OLH) sy'n ymroddedig i gyhoeddi ysgoloriaeth mynediad agored heb unrhyw gostau prosesu erthygl sy'n wynebu'r awdur (APCs). Caiff ei ariannu gan gonsortiwm rhyngwladol o lyfrgelloedd sydd wedi ymuno â chenhadaeth y sefydliad i wneud cyhoeddi ysgolheigaidd yn decach, yn fwy hygyrch, ac yn un sydd wedi’i ddiogelu’n llym ar gyfer y dyfodol digidol.

Mae llwyfan cyhoeddi’r OLH yn cefnogi cylchgronau academaidd ar draws disgyblaethau’r dyniaethau, yn ogystal â chynnal ei chylchgrawn amlddisgyblaethol ei hun.  Wedi’i lansio fel rhwydwaith rhyngwladol o ysgolheigion, llyfrgellwyr, rhaglenwyr a chyhoeddwyr ym mis Ionawr 2013, mae’r OLH wedi derbyn dau grant sylweddol gan y Sefydliad Andrew W. Mellon hyd yn hyn (a ddyfarnwyd i Brifysgol Lincoln ac i Birkbeck, Prifysgol Llundain), ac mae wedi adeiladu model busnes cynaliadwy gyda'i llyfrgelloedd partner.  Caiff yr Open Library of Humanities ei rhedeg gan yr Athro Martin Paul Eve a’r Dr Caroline Edwards, ill dau yn Birkbeck, Prifysgol Llundain.

Cred Gwasg Prifysgol Cymru (GPC) yn angerddol mewn cefnogi a lledaenu ysgoloriaeth gan ac am Gymru i gynulleidfa fyd-eang.  Mae’r Wasg wedi gwasanaethu Cymru a’r gymuned academaidd ryngwladol ers 1922 trwy gyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd yn y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.

Rydym yn rhannu’r traddodiad cryf yng Nghymru o ddod ag addysg a dysg at yr holl bobl ac yn gweld mai ein rôl ni yw rhoi cymorth i bob agwedd o ddysgu a’r ymchwil gydol oes am wybodaeth a rhagoriaeth academaidd. Rydym yn chwarae rôl bwysig yn lledaenu’r ddealltwriaeth o ddiwylliant, hanes, iaith a gwleidyddiaeth unigryw Cymru. Dros y 91 mlynedd diwethaf rydym wedi rhoi llwyfan i feddylwyr mwyaf Cymru, gan gyfrannu at adeiladu Cymru fodern. Rydym mewn safle unigryw fel yr unig wasg academaidd ddim er elw yng Nghymru a chyda chefnogaeth Prifysgol Cymru rydym wedi gallu aros yn driw i’n cenhadaeth.

Ers ei sefydlu, mae wedi cyhoeddi dros 3,500 o deitlau, ac ar hyn o bryd yn cyhoeddi tua 70 o lyfrau a chylchgronau newydd y flwyddyn.  Gyda dros 800 teitl mewn print drwy ein partneriaeth strategol gyda Gwasg Prifysgol Chicago, Cyngor Llyfrau Cymru a nifer o ddosbarthwyr eraill, mae gennym rwydwaith ddosbarthu effeithiol fyd-eang ar gyfer ein cyhoeddiadau.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau