Wedi ei bostio ar 26 Hydref 2012

Owain Arwel Hughes
Yn dilyn lansio’r gyfrol yn swyddogol ym mis Medi yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, ymgasglodd dros 120 o westeion, gan gynnwys perfformwyr o safon fyd-eang a sêr y byd cerdd, yn y Coleg Cerdd Brenhinol ar 17 Hydref i ddathlu lansio hunangofiant Owain Arwel Hughes My Life in Music, yn Llundain.
Yn yr hunangofiant gonest a difyr hwn a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru ym mis Medi, mae un o brif arweinwyr y byd yn edrych yn ôl ar y digwyddiadau a’r bobl sydd wedi siapio a dylanwadu ar ei fywyd. Ceir straeon drwyddi draw am ei gysylltiadau â cherddorion, enwogion ac eiconau chwaraeon.
Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad roedd yr Athro Simon Hasslet o Brifysgol Cymru, Aelod o Gyngor y Brifysgol a Chadeirydd Is-Bwyllgor y Wasg, Tony Ball, Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru Helgard Krause a’r chwaraewr cello byd-enwog Julian Lloyd Webber.
Soniodd Julian Lloyd Webber, sydd wedi rhannu llwyfan a pherfformio gydag Owain am ei edmygedd ac aeth ymlaen i ddweud ei fod yn “falch iawn i weld cyhoeddi hunangofiant Owain.”
Dilynwyd yr areithiau gan gyfweliad un-i-un rhwng yr awdur ei hun a’r beirniad llenyddol Catrin beard.
Yn dilyn yr areithiau a’r cyfweliad, cafwyd derbyniad gwin i’r gwesteion a bu Owain yn llofnodi copïau o’i gyfrol ac yn sgwrsio â’r gwesteion.
/Diwedd
Owain Arwel Hughes: My Life in Music
£24.99 | HB | 9780708325308 | 208 tudalen – 16 delwedd du a gwyn
Os hoffech drefnu cyfweliad ag Owain Arwel Hughes neu os hoffech gopi adolygu o Owain Arwel Hughes: My Life in Music, cysylltwch â cyfathrebu@cymru.ac.uk