Owain Arwel Hughes: My Life in Music

Wedi ei bostio ar 18 Medi 2012
OAH Book Launch

Yr Athro Simon Haslett, Tony Ball, Owain Arwel Hughes, Helgard Krause a Jamie Owen

Owain Arwel Hughes, CBE yw un o arweinwyr cerddorfaol amlycaf y byd. Ag yntau wedi recordio a pherfformio gyda cherddorfeydd mawr – gan gynnwys y Royal Philharmonic, y Philharmonia, yr Halle, y Stuttgart Radio, Cerddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC a nifer ledled Sgandinafia – dros ddeugain mlynedd ei yrfa rhannodd lwyfan â rhai o berfformwyr gorau’r byd, o Julian Lloyd Webber i Bryn Terfel, o Pavarotti i Shirley Bassey. Nawr yn ei hunangofiant agored, gonest a difyr, ei chyhoeddi y mis hwn gan Wasg Prifysgol Cymru, mae Owain Arwel Hughes yn edrych yn ôl ar y digwyddiadau a’r bobl a ffurfiodd ac a ddylanwadodd ar ei fywyd.

Ganwyd Owain Arwel Hughes ym 1942 ac fe’i magwyd yng Nghaerdydd, gyda cherddoriaeth o’i gwmpas ym mhobman. Astudiodd ei dad yn y Coleg Cerddoriaeth Brenhinol ac aeth yn ei flaen i weithio i’r BBC, gan ymddeol ym 1971 o swydd Pennaeth Cerddoriaeth. Ar yr adeg hwnnw, roedd cymoedd de Cymru yn fyw i sŵn y corau mawr ac yr eglwys a bywyd gweinidog gyda’r Bedyddwyr oedd yn denu Owain yn gyntaf, nes iddo newid ei feddwl pan gafodd gyfle i arwain côr yr ysgol. Roedd yn benderfyniad a fyddai’n newid cwrs ei fywyd yn llwyr, ac un y mae wedi’i ddilyn â balchder ac angerdd byth ers hynny.

My Life in Music yn llawn hiwmor a dwyster, a thrwyddi draw ceir yr hanesion am ei gysylltiadau â cherddorion, enwogion ac eiconau’r byd chwaraeon. Mae’n difyrru ac yn datgelu, gan sôn nid yn unig am y pleser y mae cerddoriaeth wedi’i roi iddo ond hefyd am yr aberth sy’n dod o fod yn rhan o broffesiwn hynod gystadleuol a chyhoeddus.

Cafodd My Life in Music ei lansio ddydd Iau, 13 Medi yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

/Diwedd

Owain Arwel Hughes: My Life in Music
£24.99 | HB | 9780708325308 | 208 tudalen – 16 delwedd du a gwyn

Os hoffech drefnu cyfweliad ag Owain Arwel Hughes neu os hoffech gopi adolygu o Owain Arwel Hughes: My Life in Music, cysylltwch â cyfathrebu@cymru.ac.uk

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau